Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi enillwyr Cymreig Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol 2020

Mae pedwar sefydliad yng Nghymru wedi derbyn y wobr eleni

Queen's Award logo

Mae pedwar sefydliad o Gymru wedi ennill Gwobr fawreddog y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni.

Mae Roots Foundation Wales, Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan, Hands Around the World a Chymdeithas Camlesi Abertawe wedi derbyn y wobr uchaf i sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth eithriadol o fewn eu cymunedau.

Yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr (1-7 Mehefin), mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni yn dathlu gwaith ystod eang a gwych o grwpiau gwirfoddol sydd wedi gwella a chefnogi cymunedau lleol dros nifer o flynyddoedd.

Mae Gwobr y Frenhines yn cynnig cyfle i amlygu eu cyfraniad eithriadol i gymdeithas a hefyd i gydnabod y rôl hollbwysig y mae llawer wedi’i chwarae i gefnogi pobl sy’n agored i niwed yn ystod y pandemig.

Mae’r derbynwyr eleni yn dangos yr amrywiaeth o sefydliadau sy’n cefnogi ein cymunedau a hefyd eu gallu i arloesi – mae llawer wedi gallu addasu eu gwasanaethau o ganlyniad i achos y coronafeirws.

Pan gaeodd y banc bwyd lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot am fod eu gwirfoddolwyr yn hunan-ynysu, penderfynodd Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan ail-drefnu eu hadeilad, eu staff a’u gwirfoddolwyr yn gyflym a thrawsnewid y Llyfrgell yn fanc bwyd dros dro i’r gymuned.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Annibynnol Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol, Syr Martyn Lewis:

Mae Gwobrau’r Frenhines eleni yn tynnu sylw at lwyddiannau sylweddol grwpiau o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn cael effaith wirioneddol ar adeiladwaith ein gwlad am flynyddoedd lawer – mewn rhai achosion, am ddegawdau. Wedi’i hysbrydoli gan bopeth sydd orau am yr ysbryd dynol, maent yn cynnwys pobl leol sydd wedi dod at ei gilydd i fynd i’r afael â materion a phroblemau penodol sy’n wynebu eu cymunedau - yn aml mewn ffyrdd newydd a dychmygus.

Mae pob un o enillwyr y gwobrau hyn wedi dangos ymrwymiad hirdymor i wirfoddoli sy’n rhoi gwir ystyr i gymdeithas, ac sy’n dangos Prydain ar ei gorau. Ar ben hynny, mae rhai ohonynt hefyd wedi llwyddo i ddarparu cymorth gwerthfawr gyda’r frwydr yn erbyn Covid-19. Rydym yn ddyledus iddynt – ac yn eu llongyfarch.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod yr oriau o waith caled mae gwirfoddolwyr a sefydliadau ledled y DU yn gwneud i wasanaethu eu cymunedau a chreu ymdeimlad o falchder lleol. Nid yw’r derbynwyr o Gymru eleni yn eithriad, ac yn y pandemig byd-eang presennol mae eu gwaith yn eu cymunedau yn fwy gwerthfawr nag erioed.

Llongyfarchiadau i’r pedwar derbynwyr o Gymru sydd i gyd yn llwyr haeddu’r wobr hon am y rôl gadarnhaol y maent yn ei chwarae mewn cymdeithas.

Dywedodd y Farwnes Barran, y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil:

Mae’r wobr fawreddog hon yn cydnabod y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr ledled y wlad a hoffwn longyfarch yr holl enillwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn cefnogi eu cymunedau.

Elusennau, mentrau cymdeithasol a’u gwirfoddolwyr yw calon ein cymunedau. Yn y cyfnod heriol hwn, maent wedi dwysáu eu hymateb ac wedi bod yn hanfodol i’r ymdrech genedlaethol, ac rydym i gyd yn ddiolchgar am hynny.

Meddai Bob Chapman, Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr yn llyfrgell gymunedol Cymer Afan:

Mae’n wych i ennill y wobr hon i gydnabod y cyfraniad y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud i’n cymuned leol – rydym i gyd wrth ein boddau! Mae hwn yn ardal dan anfantais sylweddol ac rydym i gyd yn gweithio’n ddiflino i roi cyfleoedd i bobl na fyddent ar gael fel arall yma.

Cyhoeddir y rhai sy’n derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol bob blwyddyn ar 2 Mehefin, sef pen-blwydd coroni’r Frenhines.

Gellir enwebu unrhyw grŵp dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n cynnwys dau neu fwy o bobl sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill mewn ffordd eithriadol i gael gwobr. Mae’n rhaid i grŵp fodloni’r gofynion cymhwystra cyn y gellir prosesu’r enwebiad hyd at gamau asesu’r dyfarniad. Gellir cael mwy o fanylion ar wefan Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.

Y dyddiad cau am enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn 2021 yw 25 Medi 2020.

Dewch o hyd i enillwyr eleni sy’n lleol i chi ar ein map.

Cyhoeddwyd ar 2 June 2020