Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Tata Steel yn sicrhau dyfodol i’r sector dur yng Nghymru drwy gyhoeddi cynllun trawsnewid gwyrdd ym Mhort Talbot

Mae Llywodraeth y DU a Tata Steel yn cytuno ar becyn buddsoddi ar y cyd i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

  • Mae Llywodraeth y Deyrnas wedi cytuno ar gynnig gyda Tata Steel i fuddsoddi mewn dulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot, gan ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur a swyddi medrus yng Nghymru.
  • Byddai buddsoddiad trawsnewidiol – gan gynnwys un o becynnau cymorth mwyaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig erioed – mewn Ffwrnais Arc Trydan o’r radd flaenaf yn moderneiddio’r dull o gynhyrchu dur, ac yn lleihau allyriadau carbon y Deyrnas Unedig tua 1.5%.
  • Heb fuddsoddiad sylweddol, byddai Port Talbot dan fygythiad difrifol, a byddai swyddi’r 8,000 o bobl sy’n cael eu cyflogi gan Tata Steel yn y Deyrnas Unedig mewn perygl.
  • Bydd buddsoddiad sylweddol, ochr yn ochr â’r Porthladd Rhydd Celtaidd, yn sbarduno twf gwyrdd tymor hir ac yn creu swyddi medrus yn economi de Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Heddiw (15 Medi), mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Tata Steel wedi cytuno ar becyn buddsoddi arfaethedig ar y cyd. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot, yn moderneiddio’r dulliau o gynhyrchu dur i’w gwneud yn fwy gwyrdd, ac yn diogelu swyddi medrus – yn amodol ar ymgynghoriad a chymeradwyaeth reoleiddiol.

Mae disgwyl i Tata Steel ddefnyddio £1.25 biliwn, gan gynnwys grant sy’n werth hyd at £500 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – un o becynnau cymorth mwyaf y llywodraeth erioed – i fuddsoddi mewn Ffwrnais Arc Trydan newydd a fydd yn cynnig dull mwy gwyrdd o gynhyrchu dur yng ngwaith dur Port Talbot, sef yr allyrrwr carbon mwyaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Byddai’r ffwrnais hon yn cymryd lle’r ffwrneisi chwyth presennol sy’n cael eu pweru gan lo – sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes – a byddai’n lleihau allyriadau carbon y Deyrnas Unedig tua 1.5%.

Mae Tata Steel UK yn cyflogi dros 8,000 o bobl, gan gynnwys yng ngwaith dur Port Talbot, a fyddai o dan fygythiad difrifol oni bai am fuddsoddiad sylweddol i warantu ei ddyfodol. Mae Tata Steel hefyd yn cefnogi tua 12,500 o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi.

Diolch i ymyrraeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, disgwylir y bydd y cynnig a gyhoeddwyd heddiw – sy’n parhau i fod yn destun prosesau gwybodaeth ac ymgynghori dan arweiniad Tata Steel – yn diogelu dros 5,000 o swyddi ledled y Deyrnas Unedig.

Byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn sicrhau ystod eang o gefnogaeth i unrhyw staff y mae’r newid yn effeithio arnynt, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Tata Steel i sefydlu bwrdd pontio pwrpasol i gefnogi gweithwyr a’r economi leol gyda hyd at £100m o gyllid.

Dywedodd Kemi Badenoch, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach:

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi ein sector dur, a bydd y cynnig hwn yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddur Cymru, ac yn diogelu miloedd o swyddi yn y tymor hir.

Mae hwn yn becyn cymorth hanesyddol iawn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a bydd yn diogelu swyddi medrus yng Nghymru, ac yn datblygu economi’r Deyrnas Unedig, yn hybu twf, ac yn helpu i sicrhau diwydiant dur llwyddiannus.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Jeremy Hunt:

Mae’r cynnig hwn yn garreg filltir bwysig ar gyfer y sector cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig – gan gefnogi twf economaidd cynaliadwy, lleihau allyriadau, a chreu swyddi gwyrdd.

Rydyn ni’n barod i gamu i mewn i ddiogelu’r diwydiant gweithgynhyrchu pwysig hwn, ac i gefnogi hwb twf gwyrdd yn ne Cymru.

Mae’r cynnig pwysig a gyhoeddwyd heddiw yn ychwanegu at fuddsoddiadau mawr eraill a wnaed gan Tata Group mewn technoleg werdd yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf am y gigaffatri batri gwerth £4 biliwn a fydd yn creu 4,000 o swyddi, ac mae’n arwydd o ffydd mawr yn y Deyrnas Unedig.

Ochr yn ochr â chynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd – y mae disgwyl iddo greu 16,000 i swyddi – a’r tir ym Mhort Talbot y mae Tata yn disgwyl ei ryddhau i’w drosglwyddo neu ei werthu yn dilyn y trawsnewidiad o ffwrneisi chwyth, gallai’r buddsoddiad hwn helpu i greu miloedd o swyddi newydd a rhoi hwb i economi de Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach.

Yn amodol ar brosesau ymgynghori Tata Steel, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amcangyfrif y bydd y pecyn cymorth hefyd yn diogelu miloedd o swyddi yng nghadwyn gyflenwi dur y Deyrnas Unedig.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:

Mae gwaith dur yn dal i chwarae rhan annatod yn economi Cymru, ac mae’r pecyn cymorth enfawr hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn sicrhau bod gan y diwydiant ddyfodol disglair i gyd-fynd â’i hanes hir a balch yn ne Cymru.

Rydyn ni’n buddsoddi yn ein diwydiant dur wrth iddo wneud y trawsnewid angenrheidiol i ddulliau cynhyrchu mwy gwyrdd, ac rydyn ni hefyd yn rhoi cymorth ar waith i’r gweithwyr lleol y mae’r newidiadau’n effeithio arnyn nhw.

Dywedodd N Chandrasekaran, Cadeirydd Grŵp Tata:

Mae’r cytundeb hwn â Llywodraeth y Deyrnas yn foment dyngedfennol i ddyfodol y Diwydiant Dur ac, yn wir, i’r gadwyn gwerth ddiwydiannol yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Llywodraeth Ei Fawrhydi a’r Prif Weinidog, Rishi Sunak, i ddatblygu’r llwybr trawsnewid arfaethedig ar gyfer cynhyrchu dur yn gynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y buddsoddiad arfaethedig yn diogelu cyflogaeth sylweddol ac yn gyfle gwych i ddatblygu ecosystem ddiwydiannol sy’n seiliedig ar dechnoleg werdd yn ne Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n rhanddeiliaid ar y cynigion hyn mewn ffordd gyfrifol.

Mae disgwyl i’r trawsnewidiad i ddull cynaliadwy o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot hefyd arwain at 7% yn llai o allyriadau carbon gan yr holl ddiwydiannau a busnesau yn y Deyrnas Unedig, 22% yn llai o allyriadau yng Nghymru, ac 85% yn llai o allyriadau ar y safle ym Mhort Talbot.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Ffwrnais Arc Trydan yn cynhyrchu dur drwy ddefnyddio cerrynt trydanol i doddi dur neu haearn, tra bod ffwrneisi chwyth yn defnyddio golosg, sef tanwydd carbon-ddwys sydd wedi’i wneud o lo.
  • Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, bydd Tata Steel UK yn hysbysu ac yn ymgynghori â staff ac undebau ynghylch eu cynigion.
  • Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnig cefnogaeth i unrhyw weithwyr y mae’r cynigion hyn yn effeithio arnynt – gan gynnwys Credyd Cynhwysol, a’r Ganolfan Byd Gwaith drwy Wasanaeth Ymateb Cyflym yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn ogystal â gwasanaethau sgiliau ac ailhyfforddi fel rhaglen ReAct Llywodraeth Cymru.
  • Bydd y buddsoddiad hwn yn talu am Ffwrnais Arc Trydan newydd, a chyfleusterau cysylltiedig.
Cyhoeddwyd ar 15 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 September 2023 + show all updates
  1. Welsh translation now available.

  2. First published.