Datganiad i'r wasg

Wylfa yn “stori lwyddiant aruthrol” i Gymru ac yn rhan allweddol o weledigaeth Pwerdy'r Gogledd

Stephen Crabb yn nodi cyfraniad gorsaf bŵer Ynys Môn

Wylfa

Ar ôl 44 mlynedd o gynhyrchu trydan, bydd adweithydd rhif un yng ngorsaf bŵer Wylfa ar Ynys Môn yn rhoi’r gorau i gynhyrchu trydan heddiw (30 Rhagfyr 2015).

Yn wreiddiol, roedd yr adweithydd i fod i gael ei ddiffodd yn 2010, ond mae wedi parhau i gynhyrchu ynni am bum mlynedd ychwanegol, gan godi cyfalaf ychwanegol gwerthfawr i’r DU, a chefnogi cannoedd o swyddi. Yn awr, mae’n symud i’r cam nesaf yn ei gylch bywyd, sef rhoi’r gorau i’r tanwydd a digomisiynu’r safle.

Meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Wylfa wedi bod yn stori lwyddiant aruthrol i Ynys Môn, ac i ddiwydiant niwclear y DU. Mae’r ffordd y mae’r adweithydd wedi cael ei weithredu mewn modd diogel yn destament i’r gwaith caled a gyflawnwyd gan y gweithlu medrus ac ymroddgar. Rwyf wedi ymweld â safle Wylfa, ac wedi gweld y cyfoeth o arbenigedd ym maes ynni niwclear a phrentisiaid ifanc brwdfrydig ar Ynys Môn gyda llygaid fy hun. Fel y mae’r sylw yn troi at ddigomisiynu a glanhau’r safle, bydd yn parhau yn ffynhonnell hanfodol o waith yn yr ardal leol.

Ond mae dyfodol ynni niwclear yn y DU yn fwy na dim ond un adweithydd. Mae niwclear yn y DU hefyd yn golygu datblygu a rhannu ein harbenigedd ar ddigomisiynu, sy’n un o’r mwyaf blaenllaw yn y byd, a chynyddu’r gadwyn gyflenwi domestig gan greu swyddi medrus newydd ar hyd a lled y wlad.

Mae buddsoddiad Hitachi yn Wylfa Newydd yn pwysleisio y bydd Ynys Môn yn parhau i chwarae rhan allweddol ym maes cynhyrchu ynni yn y DU. Hefyd, mae’n cryfhau ein sefyllfa fel un o’r marchnadoedd buddsoddi mewn trydan mwyaf deniadol yn y byd. Mae’r prosiect yn cynnig buddion sylweddol i economi Cymru – yn arbennig yng ngogledd Cymru – drwy ragor o swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi. Mae Hitachi eisoes wedi dweud y bydd hyd at 60% o’r gadwyn gyflenwi ynghlwm wrth adeiladu Wylfa Newydd, a bydd safle arfaethedig yn Oldbury yn gwmnïau yn y DU.

Mae cynlluniau’r Canghellor ar gyfer Pwerdy’r Gogledd yn cynnwys cael cydbwysedd ar ein tyfiant, ac adeiladu economi gref a chynnal Teyrnas Unedig gadarn. Gall Ynys Ynni - Ynys Môn gynorthwyo i sicrhau bod Gogledd Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y weledigaeth hon, a’r diwygiad economaidd sy’n digwydd ledled y DU.

Cyhoeddwyd ar 30 December 2015