Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu’r Frenhines i agor y Cynulliad

Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, Ei Mawrhydi’r Frenhines i Gymru ar gyfer agoriad swyddogol pedwerydd Cynulliad Cenedlaethol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, Ei Mawrhydi’r Frenhines i Gymru ar gyfer agoriad swyddogol pedwerydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (dydd Mawrth, 7 Mehefin).

Roedd Mrs Gillan yn bresennol i groesawu Ei Mawrhydi’r Frenhines, ynghyd a Dug Caeredin, Tywysog Cymru a Duges Cernyw, wrth iddynt gyrraedd Caerdydd ar gyfer agoriad pedwerydd tymor y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae gan y Cynulliad newydd hwn bwerau deddfu cryfach, yn unol a phleidlais pobl Cymru yn y refferendwm ar Fawrth 3.

“Roeddwn yn falch o fod wedi gallu cyflwyno’r refferendwm hwnnw, a fydd yn galluogi’r aelodau i ddal ati gyda’r gwaith o gyflwyno gwell gwasanaethau cyhoeddus a gwella amodau byw i bobl Cymru yn y meysydd datganoledig y maent yn gyfrifol amdanynt.

“Mae canlyniad y refferendwm wedi arwain at fwy o gyfrifoldeb ar ysgwyddau aelodau Bae Caerdydd ac, fel y dywedodd y Frenhines wrth Aelodau’r Cynulliad, bydd perfformiad y Cynulliad wrth iddo ymarfer y cyfrifoldebau newydd hyn yn cael ei arolygu’n fanwl yma yng Nghymru a thu hwnt.

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cadarnhau ei hymrwymiad i weithio’n agos a Llywodraeth newydd Cymru yn y Cynulliad er mwyn sicrhau bod y trefniadau deddfwriaethol hyn yn gweithio’n effeithiol. Disgwylir llawer yn awr gan y Cynulliad oherwydd ymddiriedwyd awdurdod ynddo i lunio deddfau fel rhan o’r 20 maes sy’n cael sylw gan y trefniant datganoli gwreiddiol. 

“Edrychaf ymlaen yn awr at weithio eto gyda’r Prif Weinidog a gydag Aelodau’r Cynulliad wrth iddynt fynd ati i weithio’n lleol yng Nghymru er mwyn cyflawni yn y meysydd sydd wedi’u datganoli i’r Cynulliad”.

Cyhoeddwyd ar 7 June 2011