Ysgrifennydd Cymru yn croesawu £243 miliwn o gymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer ffermwyr Cymru
Heddiw, fe wnaeth y Canghellor gyhoeddi £243 miliwn o gyllid i gefnogi ffermwyr Cymru pan fydd y DU yn gadael yr UE.

- Bydd yr arian yn cynnal lefel cyllid y Taliadau Uniongyrchol ar yr un gyfradd â’r llynedd.
- Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i ffermwyr, a fydd yn rhoi hyder iddynt ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Heddiw (Dydd Llun 30 Rhagfyr) fe wnaeth Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, groesawu cyhoeddiad y Canghellor y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £243 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ffermwyr pan fydd y DU yn gadael yr UE y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth Sajid Javid gadarnhau y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ffermwyr pan fydd y DU yn gadael cynllun Taliadau Uniongyrchol y Polisi Amaethyddol Cyffredin, a fydd yn caniatáu i ffermwyr ledled Cymru gynllunio ar gyfer y dyfodol, hau eu cnydau a gofalu am eu da byw gyda hyder.
Dywedodd Sajid Javid, Canghellor y Trysorlys:
Pan fyddwn yn gadael yr UE ac yn torri’n rhydd o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, byddwn yn gallu cefnogi ein cymunedau gwledig hollbwysig – sy’n un o gonglfeini bywyd yn y DU – gyda system decach a llai biwrocrataidd.
Gall ffermwyr ddechrau’r flwyddyn newydd yn hyderus, gan wybod ein bod yn eu cefnogi ac y byddwn yn gallu ffynnu ar ôl Brexit.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:
Mae’r cyllid hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi sicrwydd a chymorth i ffermwyr Cymru. Mae hefyd yn amlygu’r cyfleoedd helaeth sydd ar gael i ni wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd rheoli’r cyllid hwn yn caniatáu i ni fynd ati’n well i gynrychioli’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu, gan sicrhau bod ein cymunedau ffermio’n cael yr hyn sydd ei angen arnynt i ffynnu ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
DIWEDD.