Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â Chymdeithas y Cadetiaid a’r Lluoedd Wrth Gefn yn y Maendy
Heddiw [21ain Tachwedd], fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gwrdd ag aelodau o Gymdeithas y Cadetiaid a’r Lluoedd Wrth Gefn…

Heddiw [21ain Tachwedd], fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gwrdd ag aelodau o Gymdeithas y Cadetiaid a’r Lluoedd Wrth Gefn ym Marics y Maendy, Caerdydd. Mae Cymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru yn un o 13 corff statudol yn y DU sy’n rhoi cartref, yn gweinyddu ac yn cefnogi’r broses o recriwtio i’r Fyddin Diriogaethol, yn ogystal a rhoi cefnogaeth weinyddol arall i’r Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid Gwirfoddol.
Mae’r Gymdeithas yn creu cyswllt hanfodol rhwng y lluoedd Milwrol a chymunedau lleol. Fe wnaeth Mrs Gillan ganmol y gwaith y mae’r gymdeithas yn ei wneud wrth gefnogi’r Lluoedd Arfog, yn ogystal a’r cyfleoedd gyrfa maent yn eu cynnig i bobl ifanc yng Nghymru. Mae Corfflu Cadetiaid y Mor (Sea Cadet Corps), Llu Cadetiaid y Fyddin (Army Cadet Force), y Corfflu Hyfforddiant Awyr (Air Training Corps) a Lluoedd y Cadetiaid Cyfun (Combined Cadet Force) i gyd yn sefydliadau sy’n ceisio paratoi pobl ifanc ar gyfer bod yn aelodau cyfrifol o’r gymdeithas, ym mha bynnag faes maent am fynd iddo.
Mae gan Gymru hanes o ddarparu aelodau wrth gefn i gefnogi lluoedd arfog y DU, sy’n dyddio yn ol i’r 19eg ganrif. Heddiw, mae’r aelodau wrth gefn wedi cael eu lleoli ar amrywiaeth o ymgyrchoedd, gan gynnwys Irac ac Affganistan.
Dywedodd Mrs Gillan: “Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld a’r Maendy heddiw, lle bu i mi gwrdd ag aelodau wrth gefn ac aelodau a gwirfoddolwyr lluoedd y cadetiaid, sydd wedi manteisio ar y cyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant cyffrous mewn amgylchedd disgybledig.
“Mae ein dyled yn fawr hefyd i’r holl oedolion sy’n gwirfoddoli yma, sy’n rhoi cymaint o’u hamser a’u hymdrech i ysbrydoli cadetiaid i fod y gorau posib. Mae Cymdeithas y Cadetiaid a’r Lluoedd Wrth Gefn yn darparu ystod o wasanaethau hanfodol a gwerthfawr i gefnogi dinasyddion, ac rwy’n falch iawn o’r rol maent yn ei chwarae wrth helpu i ddiogelu system amddiffyn y DU.
Nodiadau i olygyddion:
- Mae buddiannau’r Lluoedd Wrth Gefn (y Llynges Frenhinol Wrth Gefn (RNR), y Morlu Brenhinol Wrth Gefn (RMR), y Fyddin Diriogaethol (TA), yr Awyrlu Brenhinol Wrth Gefn (RAuxF)) a’r Cadetiaid yn cael eu gwarchod gan fudiad sy’n eu cefnogi a rhoi eu lles nhw’n gyntaf.
- Mae Cymdeithas y Cadetiaid a’r Lluoedd Wrth Gefn yn darparu cyswllt allweddol rhwng y Gwasanaethau a’r cymunedau, cyflogwyr, lleoedd gwaith a sefydliadau o lle daw gwirfoddolwyr y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid.
- Drwy Gymdeithasau’r Cadetiaid a’r Lluoedd Arfog, gall ewyllys da, dealltwriaeth a chefnogaeth y boblogaeth - sydd i gyd yn hanfodol i gysyniad y gwirfoddolwr milwrol - gael eu meithrin, a gellir hyrwyddo Amddiffyn yn gyffredinol.