Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â chlwb pêl-droed gogledd Cymru yn dilyn cefnogaeth y loteri

Bydd Clwb Pêl-droed Athletig Gresffordd yn derbyn cyfran o'r arian a hwylusir gan Lywodraeth y DU

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi ymweld â chlwb pêl-droed lleol yng ngogledd-ddwyrain Cymru i glywed sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio arnynt ac am sut y byddent yn derbyn cyfran o becyn cymorth ariannol a wnaeth Llywodraeth y DU helpu drefnu.

Mae Clwb Pêl-droed Athletig Gresffordd yn un o 44 o glybiau yng Nghynghrair Cymru a fydd yn derbyn cyfran o becyn gwerth £750,000 a grëwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Loteri Genedlaethol a hwylusir gan Lywodraeth y DU. Bydd clybiau yn nhair adran Cynghrair Cymru yn derbyn cymorth tra bod gemau’n cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Ymwelodd Mr Hart â Gresffordd Athletig ar ddydd Llun (30 Tachwedd) ochr yn ochr ag AS lleol Wrecsam Sarah Atherton lle clywodd gan Gadeirydd y clwb Julian Davies, aelodau’r pwyllgor a chwaraewyr am effaith y pandemig ar y clwb a’u cefnogwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae clybiau fel Gresffordd Athletig yn chwarae rhan enfawr yn eu cymunedau lleol ac, fel llawer o rai eraill, maen nhw wedi bod yn brwydro yn ystod y pandemig heb gefnogwyr yn gwylio gemau, arian yn gwario arian yn y bar na’r gallu i godi arian.

Dyna pam roeddwn i’n wrth fy modd bod Llywodraeth y DU yn gallu helpu i ddod â’r Loteri Genedlaethol a’r awdurdodau pêl-droed at ei gilydd i ddarparu’r pecyn cymorth ariannol ac rwy’n gobeithio y bydd yr arian yn rhoi rhywfaint o gymorth i glybiau lleol gwych fel Gresffordd.

Dywedodd Julian Davis, Cadeirydd Gresffordd Athletig:

Mae sefyllfa Covid wedi cael effaith ariannol wirioneddol ar glybiau fel ein clwb ni heb unrhyw wylwyr yn dod drwy’r gatiau, nawdd wedi gostwng yn a chodi arian cymunedol wedi’i ohirio.

Mae wedi bod yn anodd dros ben i bob clwb, felly gwerthfawrogir help Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Loteri wrth i ni aros i ddychwelyd i chwarae pêl-droed, a fydd yn digwydd yn fuan iawn gobeithio.

Ychwanegodd AS Wrecsam Sarah Atherton:

Rwy’n deall pwysigrwydd Gresffordd Athletig i’r gymuned, yn ogystal â phwysigrwydd pêl-droed i Wrecsam. Mae rhoi rhywfaint o sicrwydd i glybiau pêl-droed fel Gresffordd yn ystod yr amseroedd hyn yn hollbwysig ac mae rhaid i ni sicrhau eu bod yn goroesi ar ôl y cyfyngiadau.

Roeddwn i’n wrth fy modd bod Llywodraeth y DU wedi gallu hwyluso cefnogaeth i 44 o glybiau, gan gynnwys Gresffordd, o Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Loteri Genedlaethol. Dyma’r hwb yr oedd ei angen arnynt ac yn ei haeddu.

Mae’r bartneriaeth ariannu gwerth £750,000 yn dilyn menter debyg gan y Loteri Genedlaethol rhwng yr FA a’r Gynghrair Genedlaethol yn Lloegr, a’i hwylusir gan Lywodraeth y DU. Mae gwaith yn parhau ar bartneriaethau gyda Chymdeithasau Pêl-droed yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cyhoeddwyd ar 3 December 2020