Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Llywodraeth y DU yn benderfynol o fynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc”

Uwchgynhadledd Swyddi Swyddfa Cymru i’w chynnal yng Ngorllewin Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

David Jones discusses youth employment issues with SMEs at previous Job Summit in Newport

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo’n llwyr i wneud gwahaniaeth i gyfleoedd bywyd pobl ifanc, dyna fydd geiriau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones heddiw (7 Ebrill 2014) wrth i faterion diweithdra ymysg pobl ifanc ddod dan sylw yn Uwchgynhadledd Swyddi ddiweddaraf Swyddfa Cymru.

Y digwyddiad, a gynhelir yng Nghanolfan Halliwell ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn Sir Gaerfyrddin, yw’r trydydd mewn cyfres o seminarau rhanbarthol ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc a gynhelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Bydd cynulleidfa o randdeiliaid o’r llywodraeth, llywodraeth leol, cyrff busnes, cwmnïau lleol a mudiadau cyflogadwyedd yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch sut i gynnig mwy o brofiad gwaith, hyfforddiant galwedigaethol a chyfleoedd am brentisiaethau i bobl ifanc.

Byddant hefyd yn clywed gan fyfyrwyr Coleg Sir Gâr a phobl ifanc eraill a fydd yn cyfleu eu profiadau cadarnhaol o brentisiaethau a chanfod cyflogaeth yn ardal gorllewin Cymru.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Roeddwn eisiau cynnal trydedd Uwchgynhadledd Swyddi Swyddfa Cymru yng nghefn gwlad gorllewin Cymru i edrych ar y gwahanol sialensiau yn y farchnad lafur sy’n wynebu pobl ifanc ledled y wlad. Mae busnesau lleol o gwmpas y wlad yn hanfodol o ran mynd i’r afael â mater diweithdra ymysg pobl ifanc, ac rwyf eisiau sicrhau eu bod yn cymryd mantais o’r holl gefnogaeth y mae’r Llywodraeth yn ei chynnig iddynt.

Gwyddom fod rhagolygon i’r dyfodol yn dibynnu ar gael cychwyn da, un sy’n adeiladu sgiliau, yn datblygu hunan-gymhelliant ac yn creu hunanhyder o ganlyniad. Dyna pam fod y Llywodraeth wedi ymrwymo’n gadarn i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau fod pobl ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y farchnad lafur er mwyn hyrwyddo’u rhagolygon o ran gyrfa, lleihau’r risg o ddiweithdra hirdymor a dibyniaeth ar les, ac annog symudedd cymdeithasol a thwf economaidd.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

Mae adeiladu economi wydn a chynorthwyo pobl i fynd i gyflogaeth hirdymor yn parhau i fod yn brif flaenoriaethau i ni. Mae ystadegau diweddaraf y farchnad lafur yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd da – mae diweithdra yng Nghymru bellach yn is nac yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn gostwng yn gyflymach yng Nghymru nac y mae yng ngweddill y DU.

Mae ein llwybr Prentisiaethau a’n rhaglen flaengar Twf Swyddi Cymru – sydd wedi creu dros 11,000 o gyfleoedd swyddi hyd yma – yn sicr wedi chwarae rhan yn hyn o beth. Gwyddom fod profiad gwaith, prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol yn allweddol o ran rhoi i bobl ifanc y cam cyntaf hollbwysig hwnnw ar ysgol swyddi.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’n holl bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU a’r Adran Gwaith a Phensiynau drwy’r cyd-weithgor ar Fynediad i Gyflogaeth a sefydlwyd yn ddiweddar, i symleiddio mynediad at ein rhaglenni ac i sicrhau bod pobl ifanc ac oedolion yn cael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu i symud ymlaen yn y gweithle.

Hefyd bydd Uwchgynhadledd Swyddi Gorllewin Cymru’n cynnwys cyfraniadau gan Canolfan Byd Gwaith ynghylch sut mae helpu pobl ifanc i gael y profiad sy’n hanfodol i sicrhau cyflogaeth.

Dywedodd Martin Brown, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaith gyda Canolfan Byd Gwaith Cymru:

Bob dydd rwy’n gweld pobl ifanc wych yn y Canolfannau Gwaith ledled Cymru, a fyddai’n asedau gwirioneddol i fusnesau, ond maent angen cefnogaeth gan gyflogwyr i gymryd y cam cyntaf hwnnw. Gallwn helpu gyda hynny.

Gall ein cynllun profiad gwaith roi i bobl ifanc amser-mewn-swydd sydd mor aml ar goll ar eu CV, gan roi cyfle iddynt hefyd ddangos i ddarpar gyflogwyr yn union beth allant ei wneud. Ac yn ogystal â chynorthwyo’r genhedlaeth nesaf i gael troed ar ysgol gyflogaeth, mae cymhelliant ychwanegol i gyflogwyr gyda £2,275 ar gael i’r rhai sy’n rhoi swydd i un o’n pobl ifanc.

Cyn yr Uwchgynhadledd, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â chwmni gwerthu ceir yn Sir Gaerfyrddin sy’n cael budd o’r cynllun Contract Ieuenctid.

Ceir Cawdor oedd y cyflogwr cyntaf yn lleol i ymrwymo i Gynllun Profiad Gwaith Canolfan Byd Gwaith, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc lleol ddatblygu sgiliau a phrofiad yn y gweithle.

Bydd y Gweinidogion yn cwrdd â Keith Davies, Rheolwr Gwasanaeth Cyffredinol Ceir Cawdor, ac yn cwrdd â phobl ifanc sydd wedi canfod cyflogaeth barhaol gyda’r cwmni o ganlyniad i’r Cynllun Profiad Gwaith.

Mae’r Uwchgynhadledd Swyddi yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos pryd y bydd pobl sy’n chwilio am waith yn Shotton, gogledd Cymru yn dechrau hawlio budd-dal Credyd Cynhwysol newydd y Llywodraeth. Mae’r rhaglen yn cyfuno chwe budd-dal oedran gweithio mewn un taliad unigol, ac mae’n ddiwygiad hanfodol i’r wladwriaeth les sy’n gwobrwyo gweithio.

Dywedodd Stephen Crabb, y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sydd â chyfrifoldeb portffolio dros ddiwygio lles:

Mae diwygio lles yn allweddol o ran datgloi potensial y cymunedau hynny yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cael eu plagio gan dlodi a diweithdra. Mae’r newidiadau yn gyfle unwaith mewn oes i adfer cymhellion i weithio gan sicrhau y gall system les gadarn barhau i ddarparu gwarchodaeth i’r rhai mewn angen.

Rydym yn creu llwybrau yn ôl i gyflogaeth ar gyfer y rhai sy’n teimlo eu bod wedi’u hynysu o’r gweithle, ac yn defnyddio dulliau newydd a blaengar o ddangos fod pobl bob amser yn well eu byd pan fyddant mewn gwaith. Drwy ein cynlluniau cyflogaeth, rydym yn cynorthwyo pobl i weddnewid eu bywydau, fel y gallant sicrhau dyfodol gwell iddynt hwy eu hunain a’u teuluoedd.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru: Lynette Bowley (029 2092 4204 / lynette.bowley@walesoffice.gsi.gov.uk)

Yr Adran Gwaith a Phensiynau: Ann Rimell neu Steve Milne (029 2058 6098/6097)

  • Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Swyddi gyntaf Swyddfa Cymru i edrych ar wahanol sialensiau’r farchnad lafur a wynebir gan bobl ifanc Cymru yng Nghasnewydd ym mis Chwefror 2013. Cynhaliwyd seminar arall yn Wrecsam ym mis Gorffennaf 2013.
  • Dechreuodd Credyd Cynhwysol yn ardal Manceinion Fwyaf a Sir Gâr ac y mae bellach yn weithredol hefyd yn Hammersmith, Rugby, Inverness, Bath a Harrogate. Bydd ehangu i Shotton yn nodi lansio’r budd-dal newydd yng Nghymru.
  • Y rhai cyntaf i hawlio Credyd Cynhwysol yw ceiswyr gwaith sengl a bydd y rhan fwyaf o’r hawliadau yn cael eu gwneud ar-lein. Bydd hawliadau Credyd Cynhwysol yn ymateb mewn amser real i newidiadau yn amgylchiadau pobl, gan gynnwys pan fyddant yn derbyn swydd
  • Mae’r Rhaglen Waith yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra i hawlwyr sydd angen mwy o help i chwilio am waith yn ddygn ac yn effeithiol. Mae cyfranogwyr yn cael cefnogaeth i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Darparwyr gwasanaeth dan gontract gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n cyflwyno’r rhaglen, a nhw sy’n llwyr gyfrifol am benderfynu sut orau i gefnogi’r cyfranogwyr a bodloni eu safonau darparu gwasanaethau gofynnol ar yr un pryd.
  • Mae’r Contract Ieuenctid yn becyn o gefnogaeth sy’n werth bron i £1biliwn i helpu pobl ifanc di-waith i baratoi ar gyfer gwaith a dod o hyd i swydd. Dros dair blynedd o fis Ebrill 2012 ymlaen, bydd y Contract Ieuenctid yn darparu bron i hanner miliwn o gyfleoedd newydd i bobl ifanc ac yn gwella mesurau Cael Prydain i Weithio gyda mwy o ffocws ar bobl ifanc.
Cyhoeddwyd ar 7 April 2014