Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Mae'r Llywodraeth hon o blaid busnesau bach"

Llywodraeth y DU yn lansio'r strategaeth ‘Small Business: GREAT Ambition’

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Flight paths

Bydd lansio’r strategaeth newydd hon yn helpu perchnogion busnesau bach i wthio ffiniau’u huchelgeisiau. Mae hefyd yn ddatganiad clir am addewid y Llywodraeth hon i gefnogi busnesau bach, meddai Ysgrifennydd Cymru, David Jones, heddiw.

Mae’r strategaeth Small Business: GREAT Ambition yn ddatganiad am ymrwymiad i fusnesau arloesol ledled y DU, a dyma’r diweddaraf mewn ton o weithgarwch dan arweiniad Llywodraeth y DU sy’n ceisio helpu busnesau bach i dyfu.

Mae ymrwymiadau a chyhoeddiadau heddiw a fydd yn berthnasol yng Nghymru yn cynnwys:

  • Talebau band eang newydd sbon – bydd 22 o ddinasoedd ledled y DU – gan gynnwys Caerdydd a Chasnewydd - yn elwa o £100 miliwn o dalebau Band Eang gwerth hyd at £3,000 yr un i helpu mwy o gwmnïau bach i hybu’u busnes drwy gael gafael ar fand eang cyflym iawn.

  • Bargen decach ar egni – Cytundeb gyda chwmnïau egni i roi terfyn ar y broses o ymrwymo cwsmeriaid busnes yn awtomatig i gontract arall pan ddaw un contract i ben, cyfyngu ar ‘ôl-filio’, gwella tryloywder telerau contract a gwneud y gwaith o symud cyflenwr yn haws.

Mae hyn yn adeiladu ar yr ymrwymiad i fuddsoddi £250 miliwn yn ychwanegol at y £1 biliwn o gyfalaf newydd ar gyfer Banc Busnes Prydain ac ymestyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach - sy’n ei gwneud yn haws i gwmnïau bach ariannu’u twf.

Mae’r lansiad yn digwydd ar y diwrnod y mae pobl yng Nghymru yn paratoi i gefnogi ‘Dydd Sadwrn Busnesau Bach’ cyntaf y DU - ymgyrch genedlaethol i annog pobl i siopa’n lleol a chefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.

Mae Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yn cyfrannu 36% o holl drosiant y sector preifat yng Nghymru, ac yn gyfrifol am 630,000 o swyddi. Ers 2010, mae dros 1,000 yn rhagor o BBaCh wedi cael eu sefydlu yng Nghymru.

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn annog perchnogion busnesau bach i wneud eu ‘Huchelgeisiau MAWR’ eu hunain yn realiti, drwy fanteisio ar wasanaethau cymorth Llywodraeth y DU i’w helpu i dyfu.

Dywedodd Mr Jones:

Mae gennym doreth o fusnesau bach yma yng Nghymru sy’n dangos y cymhelliant a’r uchelgais sy’n ofynnol er mwyn sicrhau adferiad cryf yn yr economi.

Mae lansio’r strategaeth Small Business: GREAT Ambition yn dangos bod y Llywodraeth hon yn gwrando ar gymuned fusnes Prydain ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i chwalu’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, gwella’r amgylchedd busnes a’i gwneud yn haws iddynt gyflawni’u potensial.

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach hefyd yn rhoi cyfle gwych inni ddwyn sylw at y mesurau amrywiol y mae’r Llywodraeth hon wedi’u rhoi ar waith i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau bach uchelgeisiol yng Nghymru. Byddwn yn annog pob darpar entrepreneur a pherchennog busnes yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.

Yn ogystal â’r mesurau a gyhoeddwyd heddiw, mae busnesau yng Nghymru hefyd yn gallu manteisio ar y canlynol:

  • Cynllun mentora gwerth £1 miliwn sy’n sector benodol a fydd yn galluogi cwmnïau i fanteisio ar gymorth a chyngor oddi wrth bobl fusnes brofiadol yn eu meysydd eu hunain.

  • Cronfa cychwyn busnes gwerth £10 miliwn sydd wedi cael ei lansio gan BBSRC (Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol) i helpu gwyddonwyr entrepreneuraidd yn y maes hwn i sefydlu’u busnes

  • Rhaglen Fuddsoddi’r Banc Busnes a fydd yn rhoi hwb i fusnesau bach, gan roi cyfle iddynt gael at gyfalaf mawr ei angen

  • Benthyciadau Sefydlu – cefnogaeth hanfodol ar ffurf benthyciad i’w dalu’n ôl a hefyd mentor busnes ar gyfer entrepreneuriaid ledled y wlad.

  • Mae gwefan yr ymgyrch Business is GREAT wedi cael ei lansio hefyd, gan ddwyn ynghyd yr holl gefnogaeth sydd ar gael ledled y Llywodraeth.

Mae hyn yn dilyn pecyn sylweddol o gymorth yn Natganiad yr Hydref yr wythnos hon ar gyfer busnesau bach, a oedd yn cynnwys ymestyn dyblu’r Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach i Ebrill 2015, disgownt yn yr ardrethi busnes o hyd at £1,000 ar gyfer busnesau adwerthu a’i gwneud yn rhatach cyflogi staff o dan 21 oed.

Mae Small Business: GREAT Ambition hefyd yn nodi y bydd yr Arglwydd Young yn cynnal Adolygiad o Addysg Fenter ac yn gwneud argymhellion ynghylch sut i ysbrydoli mwy o bobl â’r awch entrepreneuraidd sy’n ofynnol i lwyddo mewn gwaith neu fenter. Bydd yn darparu adroddiad ar ei ganfyddiadau yn ystod haf 2014.

Ychwanegodd Mr Jones:

Mae ein busnesau bach a lleol yn rhan o’r hyn sy’n gwneud Cymru yn FAWR. Mae helpu entrepreneuriaid i sefydlu, tyfu a meithrin eu busnesau yn un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud, a thrwy lansio’r strategaeth bwysig hon, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i wneud yn union hynny.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae Small Business: GREAT Ambition yn pennu sut bydd y Llywodraeth:
  • yn rhoi mwy o gymorth ar gyfer arloesi drwy fuddsoddi £50 miliwn mewn grantiau Smart poblogaidd ar gyfer cwmnïau bach, tair cystadleuaeth ‘Launchpad’ newydd i sbarduno clystyrau arloesi a rhwydwaith newydd i ddwyn sylw buddsoddwyr at gwmnïau bach arloesol.

  • Bydd cwmnïau sydd am allforio yn gallu manteisio ar ragor o gymorth gan UK Export Finance. Rydym yn dyblu nifer y Cynghorwyr rhanbarthol gan Export Finance. Byddwn yn symleiddio ffurflenni cais ac yn gweithio gyda’r banciau i’w gwneud yn fwy ymwybodol o gyllid UKEF ac i roi gwybodaeth well y gellir ei throsglwyddo i gwsmeriaid.

  • Bydd y Llywodraeth, y BBA a’r banciau mawr yn cydweithio i greu proses atgyfeirio gryfach erbyn diwedd 2014, fel y bydd busnesau y bydd cyllid o bosibl yn cael ei wrthod iddynt yn cael eu cyfeirio at amrediad mwy byth o ddarparwyr cyllid, broceriaid a chynghorwyr eraill.

  • Bydd busnesau bach hefyd yn cael llais cryfach i herio gor-reoleiddio, gan gynnwys Hyrwyddwr Apeliadau Busnesau Bach newydd annibynnol gyda phob rheoleiddiwr nad yw’n rheoleiddio materion economaidd. Bydd yr Hyrwyddwyr hyn yn gyfrifol am sicrhau bod gan fusnesau bach lwybr apelio priodol.

Cyhoeddwyd ar 7 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 December 2013 + show all updates
  1. Add Welsh translation

  2. First published.