Datganiad Ysgrifennydd Cymru mewn ymateb i’r llifogydd a’r ymgyrch achub yng Ngheredigion
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae hon wedi bod yn ymgyrch achub hynod mewn tywydd arswydus o arw, wrth i lifogydd gyrraedd…

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae hon wedi bod yn ymgyrch achub hynod mewn tywydd arswydus o arw, wrth i lifogydd gyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.
“Mae’r rheini a oedd yn rhan o’r ymgyrch achub yn y parciau carafanau yn Llandre wedi gweithredu’n gyflym ac yn ddewr.
“Mae Swyddfa Cymru mewn cysylltiad a’r timau a oedd yn rhan o’r ymgyrch achub, a hoffwn ddiolch iddynt a chynnig fy nghefnogaeth am y ffordd y maent wedi estyn llaw i helpu’r holl drigolion a’r bobl a oedd ar eu gwyliau yr effeithiwyd arnynt, gan sicrhau cyn lleied o darfu a phosib.
“Credaf fod y sefyllfa bellach dan reolaeth. Yn benodol, hoffwn ddiolch i hofrenyddion Sea King yr Awyrlu Brenhinol, Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a chriwiau’r badau achub a chychod y gwasanaeth tan sydd ym mharc carafanau Riverside ar hyn o bryd am eu hymdrechion.
“Rwy’n gobeithio bod pawb yn yr ardal yr effeithiwyd arnynt yn ddiogel a heb gael niwed.”