Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau'r Farchnad Lafur

Dengys Ystadegau’r Farchnad Lafur diweddaraf a ryddhawyd heddiw bod diweithdra wedi aros yr un fath yng Nghymru dros y chwarter diwethaf.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Image

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfanswm nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng o 22,000.

Ym mis Awst, gostyngodd diweithdra ymysg pobl ifanc o 600. Mae nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio am Waith (JSA) wedi gostwng hefyd, o 2,300. Hwn yw’r 18fed gostyngiad misol yn olynol yn nifer yr hawlwyr yng Nghymru, a dyma’r gostyngiad unigol mwyaf ers 1997.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Fel llywodraeth, rydym yn gweithio’n galed i gael mwy o bobl o bob cefndir yn ôl i’r gwaith. Mae’n arbennig o galonogol gweld diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn parhau i ostwng.

Mae yno nifer fawr o heriau yn dal i wynebu ein economi. Dyma pam ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn cadw at ein cynllun economaidd hirdymor i greu’r amodau cywir ar gyfer twf a swyddi yng Nghymru.

Dywedodd bod hyder busnes yn allweddol i alluogi hyn i ddigwydd, gan nodi arolwg a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos cynnydd sydyn yn nifer Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru sy’n bwriadu cynyddu buddsoddiad cyfalaf yn y 12 mis nesaf.

Wele’r ystadegau diweddaraf yma

Cyhoeddwyd ar 17 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 September 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation