Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Ffigurau Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos gostyngiad pellach yn lefelau diweithdra yng Nghymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Labour Market

Mae cynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth hon yn gweithio ar gyfer pobl Cymru, yn ôl David Jones, Ysgrifennydd Cymru, heddiw (11 Mehefin), wrth i ffigurau swyddogol ddatgelu gostyngiad pellach yn y lefelau diweithdra yng Nghymru.

Mae’r ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn datgelu bod diweithdra wedi gostwng 3,000 dros y chwarter diwethaf. Mae diweithdra ymysg pobl ifanc hefyd wedi gweld gostyngiad o 1,300 y mis hwn, gyda 5,500 yn llai o bobl ifanc yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith o gymharu â’r adeg hon y llynedd.

Er bod ffigurau heddiw hefyd yn datgelu bod nifer y bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng 17,000 o gymharu â’r chwarter diwethaf, mae 10,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru erbyn hyn o gymharu â’r llynedd.

Dywedodd David Jones Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Wythnos diwethaf, nododd Araith y Frenhines y cam pwysig nesaf yng nghynllun economaidd hirdymor y llywodraeth. Mae’r ffigurau heddiw yn dangos bod y cynllun yn gweithio ac mae’r mesurau y mae’r llywodraeth hon wedi’u rhoi ar waith wedi rhoi Cymru ar y trywydd cywir tuag at sicrhau economi gryfach a gwytnach.

Fodd bynnag, allwn ni ddim llaesu dwylo. Mae effaith dirywiad 2008 i’w theimlo o hyd ac mae mwy o waith i’w wneud o hyd. Mae ein cynllun ni yn un hirdymor, ac nid yw’n ateb byrdymor. Mae angen i ni sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael budd o farchnad swyddi sy’n gwella a’r economi sy’n tyfu. Mae pob swydd a gaiff ei chreu yn golygu bod gan deulu arall fwy o sicrwydd ariannol a rhagolygon mwy llewyrchus yn y dyfodol.

Y risg fwyaf i sicrwydd economaidd Cymru yn y dyfodol fyddai rhoi’r gorau i gynllun sy’n gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol mwy ariannol sicr i Brydain, ar gyfer pobl syn gweithio’n galed a’u teuluoedd.

Gweler y ffigurau cyflogaeth diweddaraf yma

Cyhoeddwyd ar 11 June 2014