Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ddatganiad yr Hydref y Canghellor

Dywed David TC Davies fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fynd i’r afael â chwyddiant, gan greu sefydlogrwydd economaidd a thargedu cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf

Welsh Secretary David TC Davies
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd.
  • Hyd at £10 miliwn o gyllid ar gyfer Canolfan Ymchwil Technoleg Uwch – Safle Canolfan Ragoriaeth sy’n canolbwyntio ar amddiffyn yng Nghymru.

Mae Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, wedi ymateb i Ddatganiad yr Hydref y Canghellor sy’n nodi cynllun economaidd i adfer sefydlogrwydd, diogelu gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu ffyniant hirdymor.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Nod y penderfyniadau anodd ac angenrheidiol a wneir heddiw yw mynd i’r afael â chwyddiant ac adfer hyder a sefydlogrwydd yn economi’r DU.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i ddiogelu cartrefi a busnesau Cymru rhag prisiau ynni cynyddol, ond cydbwyso’r llyfrau a lleihau dyledion yw’r ateb hirdymor gorau i chwyddiant a chyfyngu ar godiadau mewn cyfraddau llog.

Fel yr eglurodd y Canghellor, mae taith anodd o’n blaenau, ond mae’r economi’n dal yn gryf gyda diweithdra yn y DU ar y lefelau isaf erioed. Mae dewisiadau anodd yn cael eu gwneud, ond dim ond drwy reoli cyllid cyhoeddus yn gadarn y gallwn ddarparu’r sefydlogrwydd economaidd hirdymor sydd mor hanfodol i deuluoedd a busnesau ledled Cymru.

Cyhoeddodd y Canghellor ei Ddatganiad ar gyfer yr Hydref ddydd Iau (17 Tachwedd) gyda’r nod o adfer sefydlogrwydd i’r economi, diogelu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel a chreu ffyniant tymor hir i’r Deyrnas Unedig.

Amlinellodd Jeremy Hunt becyn cymorth wedi’i dargedu ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, ynghyd â mesurau i leihau dyled a benthyca gan y llywodraeth. Mae’r cynllun a gyflwynodd wedi’i gynllunio i frwydro yn erbyn chwyddiant yn wyneb pwysau byd-eang na welwyd ei debyg o’r blaen wedi’i achosi gan y pandemig a’r rhyfel yn yr Wcráin.

O ganlyniad i benderfyniadau trethi a gwariant heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cael tua £1.2 biliwn yn ychwanegol dros 2023-24 a 2024-25.

Er mwyn cyflawni dros bobl Cymru, mae’r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth y DU yn darparu hyd at £10 miliwn o gymorth i’r Ganolfan Ymchwil Technoleg Uwch (ATRC), yn amodol ar achos busnes, i ddarparu safle Canolfan Ragoriaeth sy’n canolbwyntio ar amddiffyn yng Nghymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Cadarnhaodd hefyd £1.6 biliwn o gyllid ar gyfer 9 canolfan arloesi Catapwlt y DU, sy’n gynnydd o 35% o’i gymharu â’r cylch cyllido diwethaf, ac sy’n cynnwys y Catapwlt Lled-ddargludydd Cyfansawdd yng Nghymru.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Jeremy Hunt:

Yn wyneb prisiau a chwyddiant cynyddol, bydd Datganiad yr Hydref yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd economaidd a gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy ledled y DU.

Mae penderfyniadau anodd wedi cael eu gwneud, ond rydyn ni’n cymryd camau pendant i gefnogi pobl Cymru, gan gynnwys cynyddu pensiynau a budd-daliadau yn unol â chwyddiant y flwyddyn nesaf a rhoi £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd yr arian hwn yn diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac yn cefnogi aelwydydd, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus drwy’r cyfnod heriol sydd o’n blaenau.

Mae rhagor o fanylion am Ddatganiad yr Hydref ar gael yma

Cyhoeddwyd ar 21 November 2022