Stori newyddion

Ymateb Ysgrifennydd Cymru i Ddatganiad yr Hydref

“Mae cynllun tymor hir Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer adferiad economaidd parhaol yn llwyddo”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref gan y Canghellor yn brawf pellach o ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau adferiad economaidd parhaol yng Nghymru , yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, heddiw (5 Rhagfyr 2013).

Dywedodd Mr Jones y bydd cynlluniau’r Canghellor yn cefnogi pobl ifanc i sicrhau gwaith, gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl weithgar Cymru, a helpu busnesau Cymru i fuddsoddi, creu swyddi a ffynnu.

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi help llaw i bobl ifanc ymuno â’r farchnad gyflogaeth. Mewn symudiad a fydd yn helpu 64,000 o bobl ifanc ledled Cymru, ac a allai arbed £15 miliwn i fusnesau Cymru, diddymir Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer pobl ifanc dan 21 oed o Ebrill 2015 ymlaen.

Ymhellach, bydd Canolfannau Byd Gwaith hefyd yn ehangu eu gwasanaethau i ddarparu cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc 16-17 oed sydd eisiau cael mynediad at brentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn ehangu nifer o fesurau i helpu’r bron i 200,000 o Fusnesau Bach a Chanolig ledled Cymru i gael gwell llwybr at gyllid, drwy hyrwyddo benthyca i fusnesau o’r fath.

Cyhoeddodd y Canghellor y canlynol hefyd:

  • pecyn ynni a allai weld 1.3 miliwn o aelwydydd yng Nghymru yn elwa ar ostyngiad cyfartalog o £50 yn eu biliau trydan;
  • 220,000 o gyplau yng Nghymru’n elwa drwy gyflwyno lwfans dreth drosglwyddadwy o £1000 ar gyfer parau priod;
  • canslo’r cynnydd yn y Dreth Danwydd a oedd i ddigwydd ym mis Medi 2014 a fyddai wedi effeithio ar y rhagor na 1.75 miliwn o gerbydau modur yng Nghymru; a
  • bydd isafswm pris statudol profion MOT ar gyfer ceir yn cael ei rewi ar £54.18 tan 2015.

O ganlyniad i’r mesurau a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys heddiw, bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £100 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd Mr Jones:

O ganlyniad i’r penderfyniadau gwario a wnaed gan y Llywodraeth hon, economi’r DU yw’r economi sy’n cynyddu gyflymaf yn y byd Gorllewinol. Oherwydd y camau a gymerwyd gennym, rydym yn awr yn dechrau gweld adferiad economaidd y DU yn magu momentwm arwyddocaol.

Yng nghyswllt pobl ifanc, teuluoedd, busnesau a pharau priod, mae Datganiad yr Hydref yn dangos bod y Llywodraeth hon yn helpu pobl weithgar yng Nghymru drwy wneud gwahaniaeth go iawn i gostau byw.

Wnawn ni ddim gadael i bobl ifanc syrthio’n ôl. Mae Datganiad yr Hydref hwn yn ymwneud â ffafrio cyflogi pobl ifanc dan 21 oed. Ond rhaid gwneud mwy, yn dilyn canlyniadau PISA yng Nghymru yr wythnos hon – dylai fod yn rhybudd clir i bob cwr o’r wlad.

Gobeithio y gallaf ddibynnu ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i weithredu’r hyfforddiant newydd mewn Saesneg a Mathemateg ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n gadael ysgol heb TGAU yn y pynciau hollbwysig hyn. Mae angen i bobl ifanc allu cyfranogi a chyflawni eu potensial – a’r unig ffordd o sicrhau hyn yw drwy i Lywodraeth Cymru gydweithredu â ni.

Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i docio cyllidebau adrannau’r llywodraeth yn Whitehall yn eithrio awdurdodau llywodraeth leol, gan alluogi iddynt rewi’r dreth gyngor yn Lloegr. Byddwn hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i wneud yr un peth, a chymryd cam anferth ymlaen tuag at helpu pobl Cymru gyda’u costau byw.

Pwysleisiwyd ein hymrwymiad i wella seilwaith y DU ymhellach yr wythnos hon gyda chytundeb o warant mewn-egwyddor i gefnogi cyllido gorsaf bŵer niwclear newydd Hitachi yn Wylfa Newydd, a buddsoddiad pellach yn y ddarpariaeth band eang.

Nid ydym yn bwriadu afradu’r enillion a welwn ar hyn o bryd, fel y gwelsom yn digwydd dan y weinyddiaeth flaenorol. Nid yw fy ngwaith ar ben, o bell ffordd. Mae gennym gynllun, a glynwn wrtho, sef sicrhau adferiad economaidd parhaol, tymor hir, i bob enaid gweithgar yng Nghymru ac ar draws y DU.

Cyhoeddwyd ar 5 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 December 2013 + show all updates
  1. Add Welsh translation

  2. First published.