Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: RAF y Fali yn arweinydd byd-eang ym maes Hedfan Milwrol

Heddiw, bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld ag RAF y Fali ar Ynys Mon lle bydd yn mynd ar daith o amgylch yr adnoddau ac…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld ag RAF y Fali ar Ynys Mon lle bydd yn mynd ar daith o amgylch yr adnoddau ac yn nodi cyfraniad pwysig y safle wrth amddiffyn Prydain.

Yn ystod ei ymweliad, bydd Mr Jones yn cwrdd a’r timau chwilio ac achub ac yn cael gwybodaeth am hyfforddiant amddiffyn rhyngwladol. Bydd yn cael ei hebrwng o amgylch yr Hawk T1 - awyren sy’n cael ei defnyddio yn RAF y Fali i roi hyfforddiant uwch i beilotiaid ar hedfan jetiau cyflym. Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i gwrdd a theuluoedd aelodau’r Gwasanaeth i drafod bywyd ar y safle.   

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:

“Rwy’n hynod o falch o gael y cyfle i ymweld ag RAF y Fali heddiw. Mae RAF y Fali yn rhoi Cymru wrth galon y gwaith o baratoi ein peilotiaid jetiau cyflym at ddyletswyddau yn y rheng flaen, gan gynnwys gwasanaeth ymateb cyflym yr Awyrlu Brenhinol, sy’n amddiffyn yr awyr ym Mhrydain.  

“Mae cyfuniad uwch o hyfforddiant go iawn a rhith hyfforddiant y Fali yn golygu bod y ganolfan hon ar flaen y gad ym maes hedfan milwrol - nid yn unig o ran safon y dysgu, ond o ran y gwerth am arian a gynigir.  Mae hyn yn cael ei gydnabod gan y gwledydd lu sy’n anfon eu peilotiaid i hyfforddi gyda’r Awyrlu Brenhinol yng Nghymru.

“Fel ail gyflogwr mwyaf Ynys Mon, mae RAF y Fali hefyd yn chwarae rol allweddol yn yr economi leol. Dylai’r tim fod yn eithriadol o falch o’i waith, a’i gyfraniad hollbwysig wrth amddiffyn Prydain.”

Dywedodd y Capten Grŵp Adrian Hill yn RAF y Fali:

“Pwrpas RAF y Fali yw hyfforddi criwiau awyr ac achub bywydau. Rydym yn falch o gynrychioli’r Awyrlu Brenhinol yng Ngogledd Cymru - rydym wedi bod yn rhan o wead y gymuned wych hon er 1939. Mae Ynys Mon wedi bod yn barod ei chroeso a’i chefnogaeth erioed, ac rydym yn gobeithio datblygu ein cysylltiadau cryf a’r gymuned drwy gyfrwng Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog. Rydym yr un mor falch o’n gwasanaeth chwilio ac achub a’r hyfforddiant o’r radd flaenaf a gynigir yma. Edrychwn ymlaen i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gael cipolwg o’n cyfraniad at Amddiffyn y DU ac at y gallu i wrthsefyll yng Nghymru.”

Yn ystod yr ymweliad, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn mynychu seremoni wobrwyo Gohebwyr Moduro Cymru yn Ystafell Fwyta’r Swyddogion, lle cyflwynir Tlws Coffa Tom Pryce i RAF y Fali i nodi 60 mlynedd o Hyfforddiant Jetiau Ymladd Cyflym elitaidd.

Ac yntau’n un o gefnogwyr brwd Cymdeithas Gohebwyr Moduro Cymru, bydd Mr Jones hefyd yn mynd i ginio’r gwobrau blynyddol yn Neuadd Bodysgallen, ac yn siarad yno yn ystod y nos.   

 Nodiadau i Olygyddion 

  • I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch a Lynette Evans yn Swyddfa Cymru ar lynette.evans@walesoffice.gsi.gov.uk / 02920924204
  •  Grŵp o ohebwyr a newyddiadurwyr moduro proffesiynol sy’n arddel cysylltiad a Chymru a’r Gororau yw Gohebwyr Moduro Cymru** **
Cyhoeddwyd ar 9 November 2012