Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cydnabod cyflawniadau eithriadol derbynwyr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Gohiriwyd y cyhoeddiad o'r haf er mwyn nodi ymdrechion unigolion sydd wedi chwarae rolau hollbwysig yn ystod misoedd cyntaf ymdrech COVID-19

Honour medals

Heddiw (dydd Gwener 9 Hydref), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cydnabod llwyddiannau dros 100 o bobl yng Nghymru sydd wedi derbyn gwobrau drwy restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Gohiriwyd y rhestr o fis Mehefin er mwyn anrhydeddu pobl sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i fynd i’r afael â’r coronafeirws yn eu cymunedau. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau rheng flaen megis staff y GIG, pobl sy’n darparu bwyd a nwyddau, gweithwyr addysg broffesiynol yn ogystal â’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol.

Mae esiamplau o’r rheini a gafodd eu hanrhydeddu yn cynnwys Elizabeth Waters, Nyrs Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy’n derbyn MBE am wasanaethau i’r GIG yng Nghymru. Mae John Challenger o Sir y Fflint yn derbyn BEM ar gyfer gwasanaethau i bobl ifanc yng ngogledd-orllewin y DU yn ystod COVID-19 yn dilyn ei rôl yn cadw 2,300 o Gadetiaid y Môr ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr gyda’i gilydd yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo. Mae Julie Cook, Cydweithiwr Cymunedol yn Asda o Aberdâr hefyd yn derbyn BEM ar gyfer gwasanaethau i’r gymuned yn ystod COVID-19 ar ôl cael ei chydnabod am ei rôl yn hybu morâl, gofalu am bobl sy’n agored i niwed a goruchwylio rhoddion i elusennau lleol.

O fyd chwaraeon adloniant, mae cyn-hyfforddwr rygbi Cymru Warren Gatland yn derbyn CBE am wasanaethau i rygbi yng Nghymru. Mae Gareth Thomas, cyn-gapten Cymru ac ymgyrchydd elusennol HIV, yn derbyn CBE am wasanaethau i chwaraeon ac iechyd, tra bod chwaraewr rygbi gwrywaidd gyda’r nifer fwyaf o gapiau yng Nghymru a’r capten presennol Alun Wyn Jones yn derbyn OBE am wasanaethau i Rygbi’r Undeb yng Nghymru. Mae’r gantores opera Rebecca Evans hefyd yn derbyn CBE am wasanaethau i’r celfyddydau yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Dwywaith y flwyddyn rydym yn cydnabod cyflawniadau a gwasanaeth pobl eithriadol ledled y Deyrnas Unedig, mewn ystod eang o broffesiynau, diwydiannau a chymunedau.

Ond mae’r cyhoeddiad am Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni yn dod ar adeg anhygoel o ingol wrth i ni barhau i ymladd effaith coronafeirws. Mae llawer o’r rhai a anrhydeddwyd heddiw yn cynnwys y rhai sydd nid yn unig yn gwasanaethu eu cymunedau’n anhunanol ond sydd hefyd yn gyfrifol am gynllunio ymateb Cymru i’r feirws a gofalu am y rhai sy’n dioddef ei ganlyniadau.

Estynnaf fy niolchgarwch o’r galon i bawb a anrhydeddwyd heddiw a hoffwn eu llongyfarch ar eu cyflawniadau unigol.

DIWEDD

Ceir rhestr lawn o’r bobl sy’n derbyn anrhydeddau ar wefan Swyddfa’r Cabinet.

Cyhoeddwyd ar 9 October 2020