Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn addo darparu sefydlogrwydd i economi wledig Cymru
Heddiw, mae’r Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i ddarparu sefydlogrwydd i economi wledig Cymru, yn dilyn pleidlais refferendwm yr UE.
Bydd Alun Cairns AS yn datgan sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru i hwyluso gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd sefydlog.
Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) ac Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) y bydd y DU yn parhau i fod yn aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd hyd at yr amser pan y byddwn ni’n gadael mewn gwirionedd, ac y bydd holl hawliau ac oblygiadau aelodaeth yr UE yn parhau tan hynny.
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn boblogaidd ymysg y gymuned wledig a threfol ac yn uchafbwynt yng nghalendr blynyddol bywyd gwledig a ffermio yng Nghymru. Yma bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymuno â miloedd o bobl er mwyn dathlu ffermio a chynnyrch o Gymru a chyflwyno’r neges o sefydlogrwydd ar gyfer y diwydiannau hyn.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn pwysleisio’r neges na fydd yna newidiadau ar unwaith i’r ffordd y mae ein heconomi a’n system ariannol yn cael eu rheoleiddio, ac yn bwysicaf oll, y modd y masnachir nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn golygu fod y trefniadau presennol ar gyfer pysgota, ffermio a’r amgylchedd dal i fod mewn grym.
Dywedodd Alun Cairns:
Mae’r neges yn glir fod economi Prydain yn sylfaenol gryf, yn hynod o gystadleuol ac ar agor i fusnes. Does dim amheuaeth bod y diwydiant ffermio a bwyd a diod yn bwysig iawn yng Nghymru ac er na fydd newidiadau ar unwaith i’n sefyllfa, pan ddaw’r amser byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau y bydd y broses bontio mor esmwyth â phosibl ac y bydd y strwythurau cefnogi cywir ar waith. Bydd ffermio yng Nghymru yn parhau i fod yn broffidiol ac yn gystadleuol.
Mae amaeth yn ddiwydiant eiconig yng Nghymru sydd yn chwarae rôl bwysig yn yr economi - mae bron 60,000 o bobl yn gweithio’n llawn amser neu’n rhan-amser ar ffermydd yng Nghymru; amcangyfrifir bod cynnyrch gros amaethyddiaeth tua £1.5bn
Dywedodd Mr Cairns:’
Rydym yn cydnabod mai dwy o brif flaenoriaethau’r sector yw i sicrhau’r mynediad gorau posib at farchnadoedd Ewrop, gan sicrhau nad ydy Cymru dan anfantais o ran cystadleuwyr yn yr UE, ac i gael eglurder ynghylch cefnogaeth ariannol ar gyfer ffermwyr yn y dyfodol.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn treulio amser yn y canolfannau darlledu ar y maes, gan ymweld â S4C, BBC ac ITV. Yng ngoleuni ymrwymiad Llywodraethau’r DU yn 2017 i gynnal adolygiad cynhwysfawr o S4C, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn credu bod S4C yn rhan bwysig iawn o strwythur darlledu Cymru.
Dywedodd Mr Cairns:
Mae S4C yn rhan hanfodol o Ddiwylliant Cymru ac mae angen i ni sicrhau ei bod yn gallu cwrdd ag anghenion y gynulleidfa Gymraeg ei hiaith i’r dyfodol, gan gynnal ei safle fel sianel gadarn iawn.