Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn talu teyrnged i'r Lluoedd Arfog ym Maes Coffa Cymru

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cofio cyfraniad Lluoedd Arfog Prydain pan fydd Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yn agor yng Nghaerdydd heddiw.

Remembrance

Bydd Mr Cairns yn cyflwyno’r Anogaeth yn Gymraeg ac yn talu teyrnged i gofio am yr holl bobl a fu farw yn ystod y rhyfel drwy osod croes bren gyda’i deyrnged bersonol ei hun arni.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ar adeg o gofio, talwn deyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid. Bydd pobl Cymru yn cofio’n anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.

Bydd yn anrhydedd ac yn fraint cael cyfle i dalu fy nheyrnged bersonol fy hun ym Maes Coffa Cymru, a chofio am y rheini a fu’n ymladd - ac sy’n dal i ymladd - gan wasanaethu ein cenedl ar draws y byd.

Cyhoeddwyd ar 8 November 2017