Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Gall economi Gogledd Cymru fanteisio’n llawn ar HS2

Llwybr HS2 rhwng Gorllewin Canolbarth Lloegr a Crewe yn agor 6 blynedd yn gynnar

Heddiw cadarnhaodd y Canghellor George Osborne y bydd y cyswllt rheilffordd cyflym rhwng Gorllewin Canolbarth Lloegr a Crewe yn agor yn 2027 – 6 blynedd yn gynt na’r disgwyl.

O ran Gogledd Cymru, bydd yr orsaf ganolog arfaethedig yn Crewe yn cynnig gwasanaethau cyflym i deithwyr ac yn creu cyfleoedd busnes a swyddi newydd yn y rhanbarth.

Disgwylir y bydd y llwybr newydd hwn yn lleihau amseroedd teithio’n sylweddol ac yn cynyddu capasiti rheilffyrdd prysur, a dywedwyd ers tro y bydd yn gatalydd sylweddol i hybu twf ac i sicrhau cydbwysedd rhwng economïau rhanbarthol ledled y wlad unwaith eto.

Mae gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn creu un endid economaidd, a bydd y ddau ranbarth yn cydweithio mwy byth yn dilyn y cyswllt HS2.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Gallai’r cyhoeddiad hwn, sef y bydd y cyswllt HS2 rhwng Gorllewin Canolbarth Lloegr a Crewe yn agor chwe blynedd yn gynt na’r disgwyl, wir drawsnewid rhagolygon economaidd Gogledd Cymru.

Bydd y rheilffordd hon yn agor y drws i Bwerdy’r Gogledd, sy’n ymestyn o ogledd Cymru i Newcastle, gan ddod â chyfleoedd busnes a swyddi newydd yn ei sgil.

Ond mae’r weledigaeth yn mynd gam ymhellach na hynny. Bydd y galw cynyddol yn dilyn y cyswllt HS2 hefyd yn helpu i gryfhau’r achos busnes dros foderneiddio rheilffyrdd gogledd Cymru. Mae Swyddfa Cymru yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a grwpiau busnes yng ngogledd Cymru i ddatblygu’r achos busnes hwn, fel rhan o’n huchelgais ganolog i greu economi gryfach i’r DU gyfan.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2015