Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru: Gogledd Cymru yn "enghraifft ddisglair o lwyddiant allforio"

Stephen Crabb AS i bwysleisio pam fod Cymru yn le gwych i fuddsoddi ar ymweliadau â Toyota a ConvaTec.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Welsh Secretary Stephen Crabb with ConvaTec executives Robbie Heginbotham and Joanne Graham

Yn y cyfnod sy’n arwain at Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol yng Nghymru fis nesaf, bydd Stephen Crabb heddiw (9 Hydref) yn ymweld â Toyota a ConvaTec yng ngogledd Cymru - dau o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf llwyddiannus yn y byd - i amlygu pam bod Cymru yn lle gwych i fuddsoddi ynddo ac yn lle ardderchog i gynnal busnes ynddo.

Rhyngddynt, mae’r ddau gwmni’n cyflogi mwy na 1,150 o bobl yng Nghymru. Mae ffatri peiriannau 115 erw Toyota yng Nglannau Dyfrdwy yn cyflenwi peiriannau a chydrannau i ffatrïoedd Toyota ledled y byd. Mae gan ConvaTec, sy’n cynhyrchu rhai o’r cynhyrchion meddygol mwyaf arloesol yn y farchnad fyd-eang, dri safle yng Nghymru ac mae’n allforio ei gynhyrchion i fwy na 100 o wledydd.

Mae ymweliad Mr Crabb yn digwydd yr un pryd ag y caiff y data allforio diweddaraf ei gyhoeddi i Gymru. Yn ôl y ffigurau ar gyfer y chwarter diweddaraf, cynyddodd gwerth allforion Cymru fwy na 5% i £737 miliwn. Bydd hefyd yn cwrdd ag arweinyddion busnes heddiw yng Nghydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) - Gogledd Cymru, lle bydd yn nodi sut mae llywodraeth y DU yn gweithio gyda busnesau i ysgogi’r economi ledled Cymru.

Dywedodd Mr Crabb:

Mae ein cynllun economaidd hirdymor i sicrhau economi gryfach i Gymru yn golygu annog cwmnïau i fuddsoddi yn y wlad a chreu swyddi.

Mae ConvaTec a Toyota yn gwmnïau allforio byd-eang enfawr sydd wedi buddsoddi’n sylweddol yng ngogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd. Drwy leoli eu gweithrediadau a thyfu eu gweithlu yma, maen nhw’n dangos sut mae gogledd Cymru wedi dod yn enghraifft ddisglair o lwyddiant allforio.

Mae allforion Cymru yn cynyddu ac rydyn ni am i’r gynhadledd buddsoddi fis nesaf ddatblygu hyn, gan ein helpu ni i gyrraedd ein targed o ddyblu allforion y DU erbyn 2020.

Gwn fod y materion hyn yn rhai allweddol bwysig i economi Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at eu trafod gydag arweinyddion busnes yn CBI Gogledd Cymru.

Caiff yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol ei chynnal yng Nghymru rhwng 20 a 21 Tachwedd. Bydd yn canolbwyntio ar dechnolegau newydd a chaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys Masnach a Buddsoddi’r DU. Bydd yn dangos bod Cymru a gweddill y DU yn amgylchedd penigamp ar gyfer twf busnes ac i fuddsoddi mewn busnes.

Yn ystod ei ymweliadau â Toyota a ConvaTec, bydd Mr Crabb hefyd yn mynd ar deithiau o amgylch y ffatri ac yn cwrdd â staff ac uwch swyddogion gweithredol. Bydd yn cwrdd â staff o raglen brentisiaeth Toyota hefyd.

Cyhoeddwyd ar 9 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 October 2014 + show all updates
  1. Added photo.

  2. First published.