Ysgrifennydd Cymru: Canolfan ragoriaeth Casnewydd yn sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran anghenion amddiffyn a diogelwch yn y DU
Mae Labordy Technoleg a Gwyddoniaeth Amddiffyn (Dstl) y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) wedi ymuno â diwydiant i ddatblygu canolfan ragoriaeth gyntaf y DU ar gyfer datblygu arfogaeth seramig.
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Kennametal Manufacturing UK Ltd yn cydariannu’r cyfleuster sydd o’r radd flaenaf ac sydd werth £2 filiwn. Hwn fydd y cyfleuster mwyaf yn Ewrop a bydd yn helpu i gynnal 50 o swyddi’n lleol. Bydd yn datblygu cydrannau arfogaeth seramig maint llawn er mwyn amddiffyn pobl a cherbydau, a byddant yn ddigon mawr ar gyfer profion effaith graddfa-lawn.
Mae cyfleusterau gweithgynhyrchu arbenigol yn golygu bod modd datblygu syniadau a geir yn y ganolfan ddatblygu ar y safle yng Nghasnewydd.
Mae’r Labordy eisoes yn gweithio gyda Tata Steel ym Mhort Talbot i ddatblygu arfogaeth ddur ddatblygedig. Bydd y cyfleuster seramig technoleg-uchel arbenigol newydd hwn yng Nghasnewydd yn golygu y bydd yn ganolfan technoleg arfogaeth filwrol ddatblygedig ar gyfer y DU. Wrth gael rhagor o ddatblygu a chynhyrchu yn y DU, bydd hyn yn golygu y byddwn yn dibynnu llai ar fewnforio arfogaeth seramig, a bydd ar gael yn fwy rhwydd yn ystod y broses o ddatblygu unrhyw gerbydau neu arfwisgoedd yn y dyfodol.
Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, â stondin Dstl yn ystod ei ymweliad â’r gynhadledd Cyfarpar Diogelwch ac Amddiffyn Rhyngwladol ddoe. Dywedodd:
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth ddarparu datrysiadau arloesol i’r sector amddiffyn.
Yn ystod fy ymweliad â’r Gynhadledd ddoe, cefais gyfle i gwrdd â staff Dstl ac fe wnaeth y gwaith y maen nhw’n ei wneud gryn argraff arnaf i.
Mae’r diwydiant yn dal i fod yn hanfodol i economi Cymru, a bydd y ganolfan ragoriaeth newydd hon yng Nghasnewydd yn datblygu cynnyrch hanfodol ac arloesol a fydd yn helpu Cymru i aros ar y blaen o ran anghenion diogelwch ac amddiffyn ein gwlad.
Dywedodd Philip Dunne, y Gweinidog dros Gyfarpar, Cymorth a Thechnoleg Amddiffyn:
Rwy’n falch y bydd y buddsoddiad hwn mewn cyfleuster o’r radd flaenaf yn Ne Cymru, y mwyaf yn Ewrop, yn datblygu rhyddid y Deyrnas Unedig i weithredu ym maes arfogaeth seramig ddatblygedig.
Mae’r contract hwn yn enghraifft dda o’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn defnyddio ei chyllideb Gwyddoniaeth a Thechnoleg i ddatblygu arloesedd yn Sector Amddiffyn y DU.
Dywedodd Yr Athro Peter Brown o Dstl:
Mae’r buddsoddiad hwn ar y cyd yn benllanw pedair blynedd o waith. Mae’r gallu i wneud samplau seramig digon mawr ar gyfer profion effaith graddfa-lawn a’r gostyngiad sylweddol iawn yn yr amser a gymerir i gynhyrchu sampl, yn golygu y gallwn ymchwilio i ystod llawer ehangach o osodiadau arloesol, yn gyflymach ac yn rhatach nag o’r blaen.
Dywedodd Mike Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Kennametal:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Kennametal Manufacturing UK Ltd weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Dstl yn ogystal ag ehangu ei bortffolio ym maes cynnyrch arfogaeth seramig perfformiad uchel.
Nodiadau i olygyddion:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg Dstl ar 01980 658666, 07901 892660, press@dstl.gov.uk
Dstl:
Mae’r Labordy Technoleg a Gwyddoniaeth Amddiffyn (Dstl) yn manteisio i’r eithaf ar effaith gwyddoniaeth a thechnoleg (S&T) ar gyfer gwaith amddiffyn a diogelwch y DU, gan ddarparu gwasanaethau gwyddoniaeth a thechnoleg sensitif ac arbenigol i’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) a’r llywodraeth yn ehangach.
Mae Dstl yn gronfa fasnach y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy’n cael ei rhedeg yn fasnachol. Mae’n un o brif sefydliadau’r llywodraeth sy’n benodol ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn y maes amddiffyn a diogelwch, gyda thri phrif safle yn Porton Down ger Salisbury, Portsdown West ger Portsmouth a Fort Halstead ger Sevenoaks.
Mae Dstl yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a chyflenwyr yn y diwydiant, yn y byd academaidd a thramor. Y partneriaid a’r cyflenwyr allanol hyn sy’n gyfrifol am gyflwyno oddeutu 60% o’r Rhaglen Technoleg a Gwyddoniaeth Amddiffyn.
Delwedd drwy garedigrwydd defence images ar Flickr.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 September 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.