Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cwrdd ag arweinwyr busnes ar bontio’r UE

Roedd y cyfarfod yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau gan gynnwys CBI Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru i drafod newidiadau sydd ar y gweill i'r ffordd y mae busnesau'n gweithio gyda'r UE

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cwrdd â sefydliadau busnes allweddol i drafod parodrwydd ar gyfer diwedd cyfnod pontio’r UE.

Yn dilyn ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd, bydd diwedd y cyfnod pontio ar ddiwedd mis Rhagfyr yn golygu bydd rheolau newydd a fydd yn effeithio ar bobl, busnesau a theithio i’r UE ac oddi yno.

P’un a gyrhaeddir cytundeb masnach â’r UE neu beidio, o 1 Ionawr bydd newidiadau i’r ffyrdd gall busnesau mewnforio ac allforio nwyddau, y broses o gyflogi pobl o’r UE a’r ffordd y darperir gwasanaethau ym marchnadoedd yr UE, felly mae Llywodraeth y DU yn annog busnesau i baratoi.

Roedd cyfarfod yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd ar ddydd Iau (25 Hydref) yn cynnwys CBI Cymru, Siambrau masnach de a gogledd Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru a Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Ar hyn o bryd mae pob busnes yn gweithredu dan amgylchiadau heriol iawn, ond serch hynny mae’n hanfodol eu bod yn paratoi ar unwaith ar gyfer ein perthynas newydd â’r UE, y tu allan i’r farchnad sengl a’r undeb y tollau. Oni bai bod busnesau yn gweithredu yn awr, mae perygl y bydd hyn yn torri ar draws eu ffordd o weithredu.

Bydd busnesau’n chwarae rhan hanfodol o sicrhau diwedd didrafferth i’r cyfnod pontio a bydd Llywodraeth y DU yno i’w cefnogi wrth i ni symud ymlaen ar ddechrau’n newydd i Gymru a’r DU.

Gall busnesau darganfod beth sydd angen iddynt wneud wrth ymweld â gov.uk/transition a defnyddio’r offeryn wirio.

Cyhoeddwyd ar 19 October 2020