Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru

Datganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i nodi 20 mlynedd ers y bleidlais dros greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Senedd

Senedd

Dywedodd Alun Cairns:

Mae datganoli yng Nghymru wedi datblygu llawer yn ystod yr 20 mlynedd ers y refferendwm. Nawr mae’r Senedd yn rhan annatod o’n tirlun cyfansoddiadol - gan wneud penderfyniadau allweddol ar faterion sy’n effeithio ar fywyd bob dydd.

Rydw i’n hapus gyda’r cyfraniad mae’r Llywodraeth yma wedi’i wneud at siwrnai datganoli yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r setliad datganoli wedi cael ei ailysgrifennu - y pecyn mwyaf pellgyrhaeddol ac arwyddocaol o bwerau i gael eu datganoli erioed i Gymru.

Rydyn ni wedi hwyluso refferendwm 2011, pryd cafodd y Cynulliad bwerau llawn i lunio deddfau; sefydlwyd Comisiwn Silk i ystyried datganoli mwy o bwerau; llywiwyd Deddf Cymru drwy’r Senedd a chyflwynwyd fframwaith ariannol sy’n gwarantu cyllid teg i Gymru yn y tymor hir.

Hefyd rydyn ni wedi helpu i roi pwerau gwirioneddol yn nwylo pobl Cymru ar lefel leol drwy gyfrwng bargeinion Rhanbarthau Dinesig Abertawe a Chaedydd, ac mae trafodaethau ar sicrhau cytundeb twf ar gyfer Gogledd Cymru ar droed eisoes.

Rydyn ni mewn cyfnod arall o newid i ddatganoli yng Nghymru yn awr - y datganoli ar bwerau a ddaw yn ôl i ni fel gwlad pan fyddwn yn gadael yr UE. Rydyn ni wedi bod yn glir o’r dechrau y bydd canlyniad y broses yn arwain at gynnydd sylweddol ym mhwerau gwneud penderfyniadau’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

Ni fydd Llywodraeth y DU yn datganoli ac anghofio. Rydyn ni’n herio Llywodraeth Cymru yn awr i gynhyrchu twf, hyrwyddo arloesi, cynyddu cynhyrchiant a darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus. Dyma beth mae pobl Cymru ei eisiau a dyma beth maen nhw’n ei haeddu.

Cyhoeddwyd ar 18 September 2017