Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru: Gweithgynhyrchu yn ganolog i lwyddiant economi Cymru

Heddiw, bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gweld rol bwysig diwydiant gweithgynhyrchu Cymru - sy’n gwneud gwaith fel cydosod…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld ag Airbus yn Mrychdyn

Heddiw, bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gweld rol bwysig diwydiant gweithgynhyrchu Cymru - sy’n gwneud gwaith fel cydosod adenydd awyrennau a chreu cydrannau ar gyfer offer adeiladu - wrth ail-gydbwyso’r economi a sicrhau twf yr economi.   

Yn ystod ymweliadau ag Airbus ym Mrychdyn a JCB Transmissions yn Wrecsam, bydd Mr Jones yn cyfarfod ag uwch swyddogion gweithredol ac aelodau o weithlu Cymru sy’n parhau i gyfrannu’n allweddol at sector gweithgynhyrchu Prydain.   

Bydd Mr Jones yn cael ei groesawu gan Paul McKinlay, Pennaeth Ffatri Airbus ym Mrychdyn, ac yn trafod cryfder a phwysigrwydd y sector awyrofod i economi’r DU. Bydd Mr Jones yn mynd ar daith o amgylch y ffatri cydosod adenydd, a dderbyniodd archeb ar gyfer 100 o awyrennau A320 gan AirAsia yn ddiweddar, ac yn cael cyfle i gwrdd a graddedigion a gweithwyr sy’n cymryd rhan yn un o raglenni prentisiaethau mwyaf y DU.   

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Jones: 

“Mae Prydain yn ail yn y byd yn y maes awyrofod, ond ni yw’r cyntaf yn Ewrop. Mae Airbus yn gwneud ei gyfraniad pwysig ei hun at y llwyddiant hwn. Fel rhan o Bartneriaeth Twf y Sector Awyrofod (AGP), mae’r Llywodraeth hon yn gweithio gyda diwydiannau i helpu i gadarnhau’r safle hwnnw drwy fynd i’r afael a’r rhwystrau rhag twf, mynd ati i hybu allforion, a chynyddu nifer y swyddi uchel eu gwerth ym maes awyrofod yn y DU. 

“Yn Sioe Awyr Farnborough ym mis Gorffennaf 2012, lansiodd yr AGP ei Weledigaeth Strategol ar gyfer Awyrofod yn y DU. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu nifer o gamau y gellir eu cymryd i gyrraedd y nod hwnnw, gan gynnwys cystadleurwydd yn y gadwyn gyflenwi a sgiliau a gallu ym maes gweithgynhyrchu.  

“Mae buddsoddiad parhaus Airbus yn y wlad hon yn brawf o sgiliau ein gweithlu a’r hyder sydd ganddo yn ein harbenigedd ym maes gweithgynhyrchu. Mae angen i ni ddal ati i gefnogi’r sector awyrofod yn y DU a hybu rhagor o fuddsoddiad yn y diwydiant.”  

Dywedodd Paul McKinlay, Pennaeth Safle Brychdyn: 

“Mae Airbus ym Mrychdyn yn enghraifft wych o’r modd y gall y DU chwarae rhan allweddol mewn cynnyrch llwyddiannus ar lefel ryngwladol - mae pawb sy’n teithio ar awyren Airbus yn hedfan ar adenydd sydd wedi cael eu cynllunio ym Mhrydain ac wedi cael eu gweithgynhyrchu yng Nghymru. 

“Mae Airbus yn y DU yn cyflogi mwy na 10,000 o bobl yn uniongyrchol, ac amcangyfrifir bod 100,000 yn cael eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Mae ein cynnych a’n gwasanaethau werth oddeutu £2 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn, ac mae’r ymweliad hwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd y sector awyrofod i lwyddiant Prydain.” 

Yn dilyn yr ymweliad ag Airbus, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld a JCB Transmissions ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Mae’r safle’n chwarae rhan ganolog wrth gynhyrchu offer y cwmni - offer hynod gynhyrchiol a rhad ar danwydd sy’n cael ei ddefnyddio yn y diwydiant ffermio ac adeiladu.    

Yn ystod ei ymweliad, bydd Mark Turner, Cyfarwyddwr Gweithgynhyrchu Grŵp JCB, yn tywys Mr Jones o amgylch y safle ac yn amlinellu cyfraniad safle Wrecsam at y gwaith ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu sy’n gysylltiedig a chynnyrch JCB ledled y byd.    

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Turner: 

“Mae gerflychau ac echeli sy’n cael eu gweithgynhyrchu yn Wrecsam yn llythrennol yn cadw olwynion diwydiannau ym mhob cwr o’r byd i droi - ym myd amaeth ar dractorau Fastrac JCB ac yn y diwydiant adeiladu ar beiriannau a bwcedi llwytho ol a pheiriannau telesgopig JCB. Mae ein systemau trawsyriant, sy’n cael eu defnyddio yn ein ffatrioedd yn y DU, yn cael eu hanfon i’n ffatrioedd tramor hefyd, felly bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweld a’i lygaid ei hun sut mae JCB wedi dod yn arweinydd byd-eang mewn technoleg trawsyriant arloesol. Bydd ei ymweliad a JCB Transmissions yn helpu i bwysleisio’r rol bwysig y gall gweithgynhyrchu ei chwarae yn economi Gogledd Cymru.” 

Ychwanegodd David Jones , Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

“Mae’r cwmniau rwyf yn ymweld a nhw heddiw yn ganolfannau rhagoriaeth ym maes gweithgynhyrchu ac yn gyflogwyr hollbwysig yng Ngogledd Cymru. Mae eu llwyddiant yn cadarnhau pa mor bwysig yw ail-gydbwyso ac ailadeiladu’r sector gweithgynhyrchu a pheirianneg ym Mhrydain.  

“Wrth i Airbus a JCB lwyddo gartref a thramor, rydym yn llawn sylweddoli’r heriau y mae gweithgynhyrchwyr eraill yng Nghymru yn eu hwynebu.    

“Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau i geisio gwneud popeth yn ei gallu i helpu i ailgyflwyno diwydiannau. Ein bwriad yw creu economi gadarn a lewyrchus yng Nghymru, ac mae gweithgynhyrchu yn ganolog i’r weledigaeth hon.” 

 

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae’r grŵp Arweinyddion Busnes Awyrofod, sy’n cael ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau, yn cynnwys nifer fach o Brif Swyddogion Gweithredol o fusnesau blaenllaw yn y sector awyrofod ledled y DU. Mae’n cyfarfod unwaith neu ddwy y flwyddyn ac yn dynodi materion o bwys strategol sy’n effeithio ar y sector.  

2. Yna, bydd Partneriaeth Twf y Sector Awyrofod (AGP) - sy’n dod a busnesau awyrofod a’r llywodraeth at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael a’r rhwystrau rhag twf, hybu allforion, a chynyddu nifer y swyddi uchel eu gwerth yn y sector awyrofod yn y DU - yn bwrw ymlaen a’r rhain.  

3. Yn Sioe Awyr Farnborough ym mis Gorffennaf 2012, lansiodd yr AGP ei Weledigaeth Strategol ar gyfer Awyrofod yn y DU. Roedd y ddogfen hon yn egluro y bydd y Llywodraeth a diwydiannau yn parhau i gydweithio i ddatblygu gweledigaeth yr AGP yn strategaeth fanwl. Disgwylir y bydd dogfen arall yn cael ei lansio yn gynnar eleni.

Cyhoeddwyd ar 31 January 2013