Stephen Crabb: "Penderyn yn stori o lwyddiant yng Nghymru."
Ymwelodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb â distyllfa Penderyn yn Aberhonddu heddiw i weld lle mae un o gynhyrchion mwyaf cyffrous Cymru yn cael ei wneud.
Distyllfa Penderyn yw’r unig un o’i fath yng Nghymru, ac mae’n un o’r lleiaf yn y byd. Dim ond pymtheg mlynedd sydd ers y distyllu cyntaf ac fe lansiwyd ei wisgi brag sengl yn 2004.
Mae brand Penderyn yn tyfu o ran cyfaint ac o ran adnabyddiaeth ledled y byd, yn Ffrainc, yr Almaen ac Ewrop yn ogystal â marchnadoedd newydd yn Awstralia a Taiwan.
Cwblhawyd y prosiect i ehangu’r ddistyllfa yr haf diwethaf ac mae’r datblygiad hwn wedi helpu i gynyddu cynhyrchu’r ddistyllfa o 150,000 potel o wisgi brag sengl y flwyddyn i rhwng 400,000 o a 500,000.
Yn arwain at Wythnos Twristiaeth Cymru, gwelodd Stephen Crabb y ganolfan ymwelwyr drawiadol ‘sy’n denu 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn
Dywedodd Stephen Crabb:
Mae Penderyn yn lwyddiant Cymreig ac yn ysbrydoliaeth i entrepreneuriaid ar draws Cymru.
Mewn dim ond 15 mlynedd , mae’r cwmni ifanc hwn wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwch yn cyfuno arloesedd ac uchelgais gyda chynnyrch gwych a hunaniaeth Gymreig gref.
Mae Penderyn yn arloeswr ar gyfer ein diwydiant bwyd a diod, yn gwerthu wisgi Cymreig mewn 16 o wledydd ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer busnesau eraill yng Nghymru i lwyddo fel allforwyr.
Dim syndod fod miloedd o bobl yn ymweld â’r ddistyllfa bob blwyddyn i brofi ansawdd wisgi Cymreig a chryfder ein diwydiant bwyd a diod.