Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n llongyfarch yr ‘unigolion arbennig’ yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Heddiw mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wedi llongyfarch y bobl o Gymru sy’n derbyn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2015.

Heddiw [dydd Sadwrn 13 Mehefin] mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wedi llongyfarch y bobl o Gymru sy’n derbyn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2015.

Derbyniodd 57 o bobl o Gymru wobrau, gyda un yn derbyn CBE, wyth yn cael OBE, 21 yn cael MBE a 25 yn derbyn BEM (Medal yr Ymerodraeth Brydeinig).

Mae’r chwaraewr rygbi enwog o Gymru, Gareth Edwards yn cael ei urddo’n Farchog am ei wasanaeth i chwaraeon ac achosion da, yn ogystal â’r cyfansoddwr o Gymru, Dr. Karl Jenkins.

Mae’r actor a’r canwr, Michael Ball, ymhlith yr enwogion eraill o Gymru sy’n cael eu hanrhydeddu ag OBE. Mae’r cyn chwaraewr rygbi o Gymru, Jonathan Davies, hefyd yn derbyn OBE am ei wasanaeth i Ganolfan Canser Felindre.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r anrhydeddau hyn yn cydnabod llwyddiant a gwasanaeth pobl arbennig iawn ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, mewn amrywiaeth eang o broffesiynau, diwydiannau a chymunedau.

Rwy’n falch o weld cynifer o bobl o Gymru, o bob cefndir, yn cael eu hanrhydeddu heddiw. Gall pob un ohonom ymfalchïo yn eu llwyddiannau amrywiol a niferus. Maent oll yn unigolion arbennig – pobl sy’n sicrhau newid yn eu cymunedau ac sy’n ysbrydoli pobl eraill. Llongyfarchiadau i chi i gyd.

Cyhoeddwyd ar 13 June 2015