Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn trafod Dyfodol Wylfa Newydd ym Mhencadlys Hitachi

Alun Cairns yn cwrdd â chynrychiolwyr o’r cwmni ar ddechrau ei ymweliad â Japan

From left to right – Ambassador Paul Madden (British Ambassador to Japan), Hiroaki Nakanishi (Chairman and CEO of Hitachi), Secretary of State for Wales Alun Cairns and Toshikazu Nishino (Hitachi).

From left to right – Ambassador Paul Madden (British Ambassador to Japan), Hiroaki Nakanishi (Chairman and CEO of Hitachi), Secretary of State for Wales Alun Cairns and Toshikazu Nishino (Hitachi).

Cyfarfu Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, â chynrychiolwyr o Hitachi ym mhencadlys y cwmni yn Tokyo yn gynharach heddiw i drafod dyfodol safle Wylfa yng Ngogledd Cymru.

Mae’n dilyn y cyhoeddiad fod Hitachi wedi atal ei gynlluniau i adeiladu gorsaf bŵer newydd gwerth biliynau o bunnoedd, Wylfa Newydd, ar Ynys Môn.

Mae’r cyfarfod yn rhan allweddol o ymweliad yr Ysgrifennydd Cairns â Tokyo, Nagoya, Kyoto ac Osaka, lle bydd yn cwrdd â busnesau Japaneaidd sydd â buddsoddiadau sylweddol yng Nghymru. Yn ystod ei ymweliad, bydd yn sôn am ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi buddsoddiad o Japan yng Nghymru a’r cyfleoedd sydd i ddod wrth inni baratoi i adael yr UE.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Rwy’n ddiolchgar i Hitachi am y cyfarfod adeiladol heddiw i drafod opsiynau ar gyfer eu cynlluniau yng Nghymru i’r dyfodol.

Er fy mod yn llwyr gydnabod bod eu penderfyniad yn siom i bobl ar Ynys Môn ac ar draws Gogledd Cymru, mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu economi gref, eang ei sail, yn parhau. Credwn fod gan niwclear ran bwysig i’w chwarae yng nghymysgedd ynni’r DU yn y dyfodol wrth inni newid i fod yn economi carbon isel, ond rhaid i unrhyw gynnig yn y dyfodol gynrychioli gwerth da i’r trethdalwr ac i’r defnyddiwr.

Rwy’n edrych ymlaen at drafodaethau am ddyfodol niwclear newydd Wylfa yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i wthio am fwy o fuddsoddi ac am greu swyddi ychwanegol ar draws Gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd ar 18 February 2019