Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn parhau i ymgysylltu ynghylch ymadael â’r UE yng Nghymru

Alun Cairns i gadeirio pedwerydd cyfarfod Panel yr Arbenigwyr yng Nghaerdydd.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ymgysylltu fwy nag erioed ynghylch Ymadael â’r UE yng Nghymru, pan fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn cynnal pedwerydd cyfarfod ei Banel o Arbenigwyr yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau 14 Rhagfyr).

Bydd Alun Cairns yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r sector busnes, y sector amaethyddol a’r trydydd sector yng Nghymru ym Mhwynt Caspian i drafod eu blaenoriaethau ar gyfer Brexit a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynghylch y negodiadau a hynt y Bil Ymadael.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n hollbwysig ein bod yn cael sgyrsiau agored a gonest ynglŷn â beth ddylai sefyllfa Cymru - a’r DU gyfan - fod ar ôl i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys trafod yr heriau y byddwn o bosibl yn eu hwynebu ar hyd y daith, a’r cyfleoedd fydd gennym ni yn y pen draw.

Dyna pam fy mod i’n gweithio gyda rhanddeiliaid ar Banel yr Arbenigwyr er mwyn ystyried goblygiadau ymadael â’r UE i Gymru, a hynny ym mhob sector.

Wrth i’r negodiadau fynd rhagddynt, byddwn yn parhau i glywed gan y partneriaid pwysig hyn, er mwyn sicrhau bod barn pob rhanbarth yn y DU a phob sector o’n heconomi yn llywio ein trafodaethau”.

Mae’r Bil Ymadael yn ddarn allweddol o ddeddfwriaeth sydd o ddiddordeb cenedlaethol. Bydd yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU ar y diwrnod ymadael, gan sicrhau ein bod ni’n gadael yr UE gyda sicrwydd, parhad a rheolaeth. Disgwylir i’r Bil gwblhau cam Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin cyn y Nadolig.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi sefydlu Panel yr Arbenigwyr i weithio gydag ef i sicrhau y bydd y broses o ymadael â’r UE yn mynd rhagddi’n drefnus ac yn ddidrafferth yng Nghymru. Mae’r pedwerydd cyfarfod heddiw yn adeiladu ar y sgyrsiau adeiladol y maent wedi’u cael yn barod, gan helpu i gyfrannu at safbwynt negodi’r DU.

Cyhoeddwyd ar 14 December 2017