Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cymeradwyo’r Llynges wrth gefn yng Nghymru

Rhoddwyd anrheg i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel arwydd o’r berthynas arbennig rhwng Cymru a’r Lluoedd Arfog. Bu i Cheryl Gillan gyfarfod …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Rhoddwyd anrheg i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel arwydd o’r berthynas arbennig rhwng Cymru a’r Lluoedd Arfog.

Bu i Cheryl Gillan gyfarfod a’r Comander Simon Cottam o HMS Cambria er mwyn cael gwybod am y cyfraniad a wneir gan aelodau’r Llynges Frenhinol Wrth Gefn (RNR) yn Sili, Bro Morgannwg, sef yr unig uned RNR yng Nghymru.  

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod y 2,000 o arbenigwyr gwirfoddol sydd yn yr RNR yn glod i’r Lluoedd Arfog, gan eu bod yn darparu gweithlu ychwanegol hanfodol pan fo angen.  

Dywedodd Mrs Gillan:  “Roedd yn bleser gen i gyfarfod a’r Comander Cottam heddiw, sy’n rheoli’r uned hanfodol yn Sili.   Mae milwyr wrth gefn yn chwarae rhan fwyfwy hanfodol yn y Llynges, gan gymryd rhan mewn gweithrediadau ledled y byd yn aml.  Yn ogystal a rhoi eu bywydau mewn perygl o bosib, maent yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo gwell dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o’r Llynges Frenhinol a’i gwaith. 

“Mae aelodau’r RNR yn glod i’n Llynges Frenhinol ni.  Bydd arfbais HMS Cambria yn cael ei harddangos ym mynedfa Tŷ Gwydyr er mwyn i’r holl ymwelwyr weld y cysylltiad anrhydeddus sydd rhwng Cymru a’n Lluoedd Arfog.”

Cyflwynodd y Comander Cottam arfbais llong addurnol i Cheryl Gillan fel arwydd o’r cysylltiad personol cryf rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Llynges Frenhinol, gan i’w mam fod yn aelod o’r Wreniaid. Mae’r arfbais yn ffurfio rhan o gasgliad o arfbeisiau addurnol o longau sy’n gysylltiedig a Chymru, er mwyn dangos y cyfraniad y mae’r Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn ei wneud.

Nodiadau i Olygyddion:

1.   HMS Cambria yw unig uned y Llynges Frenhinol Wrth Gefn (RNR) yng Nghymru. Comisiynwyd yr uned yn 1947, ac mae wedi’i lleoli yn yr hen Farics i Filwyr Priod yn Sili, ger y Barri. Agorwyd adeiladau presennol HMS Cambria ar 15fed Hydref, 1980.

2.   Gan mai dyma’r unig uned RNR yng Nghymru, mae aelodau HMS Cambria yn aml yn hedfan y Lluman Gwyn ar gyfer y Llynges Frenhinol mewn digwyddiadau seremoniol proffil uchel drwy’r rhanbarth gyfan.

3.   Mae holl filwyr y Llynges Frenhinol Wrth Gefn yn perthyn i uned. Ceir 13 o unedau ledled y DU. Mae pob uned yn rhannu’r un nod - darparu’r hyfforddiant milwrol gorau posib i’r milwyr wrth gefn.

Cyhoeddwyd ar 14 July 2011