Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Rhaid i dorri’r cylch aildroseddu fod wrth galon y system cyfiawnder troseddol”

Stephen Crabb yn dyst i adsefydlu yn CEM Prescoed ym Mrynbuga

Bydd ymdrechion Llywodraeth y DU i wella adsefydlu yn lleihau aildroseddu, yn torri’n ôl ar droseddu ac yn gwneud ein strydoedd yn fwy diogel, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, heddiw yn ystod ymweliad â CEM Prescoed (4 Rhagfyr).

Ymunodd David Davies AS â Mr Crabb ar gyfer yr ymweliad â’r carchar ym Mrynbuga, i weld sut mae ei raglenni adsefydlu’n helpu i leihau cyfraddau aildroseddu yng Nghymru.

Mae CEM Prescoed yn rhoi cyfle i 100 o garcharorion y dydd gymryd rhan mewn gweithgareddau adsefydlu cymunedol, gan gynnwys addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae’r carcharorion yn cael cymryd rhan mewn nifer o ddosbarthiadau sy’n amrywio o astudiaethau cyfrifiadurol a llythrennedd i sgiliau cymdeithasol a bywyd. Mae’r dosbarthiadau i gyd yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a fydd o fudd iddynt ar ôl bod yn y carchar.

Gyda 30 o garcharorion mewn gwaith cyflogedig llawn-amser ac 20 arall yn ymwneud â bwyty hyfforddi ‘The Clink’ yng Nghaerdydd, mae’r carcharorion yn cael meithrin y sgiliau angenrheidiol i’w helpu i ailintegreiddio yn y gymuned pan gânt eu rhyddhau.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n rhaid i dorri’r cylch aildroseddu fod wrth galon y system cyfiawnder troseddol.

Mae’r rhaglen sydd yn ei lle yng ngharchar Prescoed yn dysgu sgiliau bywyd ac yn addysgu’r carcharorion, i sicrhau eu bod yn cael swydd ac yn integreiddio’n ôl yn y gymdeithas.

Bydd hyn yn helpu i leihau cyfraddau aildroseddu ac yn creu cymdeithas fwy diogel gyda llai o ddioddefwyr. troseddau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 4 December 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 December 2015 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.