Ysgrifennydd Cymru yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog
Heddiw, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd yn ddathliad cenedlaethol penigamp o …
Heddiw, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd yn ddathliad cenedlaethol penigamp o gyfraniad pawb sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Prydeinig neu sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol.
Caerdydd oedd canolbwynt y dathliadau cenedlaethol eleni, a daeth miloedd o bobl i’r ddinas i ddangos parch ac i ddiolch i filwyr, morwyr a phersonel awyrlu ein gwlad, sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Yng Nghaerdydd y cynhaliwyd digwyddiadau swyddogol Diwrnod y Lluoedd Arfog 2010, ac roedd y ddinas yn arwain dathliadau ar hyd a lled y wlad.
Roedd Mrs Gillan yn bresennol yn y digwyddiad yng Nghaerdydd, ynghyd ag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Duges Cernyw a Dr Liam Fox, yr Ysgrifennydd Amddiffyn. Fel rhan o’r dathliadau, gwelwyd 1,500 yn cymryd rhan mewn Gorymdaith Filwrol drwy strydoedd Caerdydd at y glannau, cynhaliwyd Gwasanaeth Awyr Agored traddodiadol yn Roald Dahl Plass, cyn i Battle of Britain Memorial Flight hedfan heibio.
Meddai Mrs Gillan: “Rwy’n falch iawn i Gaerdydd gael ei dewis fel lleoliad ar gyfer cynnal digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni. Roedd cefnogaeth arbennig y cyhoedd ar strydoedd Caerdydd heddiw yn dangos yn glir pa mor ddiolchgar yr ydym fel cenedl am gyfraniad ac aberth aelodau a chyn-aelodau ein lluoedd arfog.
“Mae digwyddiadau heddiw wedi rhoi cyfle i bob un ohonom anrhydeddu’r rheini sydd wedi aberthu cymaint dros ein gwlad dros y blynyddoedd, ac i feddwl am rol hollbwysig y Lluoedd Arfog hyd heddiw yn gwasanaethu ein gwlad mewn gwrthdrawiadau dramor.
“Roedd yn fraint ac anrhydedd cael cynnal y digwyddiad hwn i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog yma yng Nghaerdydd, wrth i bobl o bob cwr o Gymru a gweddill y DU ymuno i anrhydeddu cyn-aelodau ac aelodau presennol dewr ein lluoedd arfog.”