Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Prentisiaethau yn arwain at werth i fusnesau

Stephen Crabb yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Mae prentisiaethau wrth galon yr economi rydym am ei chreu, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, heddiw, wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2016 (14-18 Mawrth).

Cyflwynodd Swyddfa Cymru ei rhaglen prentisiaethau yn 2011 fel rhan o ymrwymiad i gynyddu mynediad a chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc.

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn dathlu prentisiaethau a’r effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar bobl, busnesau a’r economi ehangach.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Swyddfa Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gwaith rhagorol ac mae’n gwneud yn dda yn Whitehall o ran nifer ac ansawdd y prentisiaethau.

Mae prentisiaethau wrth galon yr economi rydym am ei chreu. Maent yn cynnig cyfnod gwerthfawr o brofiad gwaith i bobl ifanc, yn ogystal â rhoi hwb i fywyd o ddysgu a rhoi cyfle iddynt gyflawni eu potensial yn llawn.

Mae’r prentisiaid sydd wedi cael eu croesawu i Dŷ Gwydyr dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn gaffaeliad go iawn i’r adran. Maent yn gadael gyda chymwysterau real a phendant, sydd o fudd iddynt yn eu gyrfa yn y dyfodol.

Rwyf am weld rhagor o gyflogwyr yn cydnabod y gwerth y mae prentisiaid yn eu sicrhau i’w busnesau. Drwy gydweithio, gallwn helpu pobl ifanc Cymru i gael gwaith a sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd y credwn eu bod yn bendant yn eu haeddu.

Mae Molly Lynch, 17 o Canvey Island yn Essex wedi ymuno â’r adran gwasanaethau corfforaethol. Dywedodd:

Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio yn Llundain a dechrau bod yn annibynnol ers pan oeddwn i’n ifanc iawn. Mae rhaglen prentisiaethau Swyddfa Cymru yn gyfle perffaith i ddechrau ar yrfa hir a gwych gyda’r Llywodraeth.

Mae Cameron Laird, 18, o Stevenage ar brentisiaeth yn gyda thîm swyddfa breifat Swyddfa Cymru. Dywedodd:

Doeddwn i ddim yn hoff iawn o’r ysgol. Roeddwn i’n dymuno gwneud rhywbeth mwy ymarferol ac ennill cyflog wrth ddysgu. Rwy’n gobeithio aros yn y Gwasanaeth Sifil a chael dysgu mwy am wleidyddiaeth a’r gwaith o redeg y Swyddfa Breifat o ddydd i ddydd. Rwyf wir wedi mwynhau fy misoedd cyntaf yn Swyddfa Cymru ac mae’n gwella drwy’r amser.

Mae James Anderson, 20 o Tadworth yn Surrey wedi ymuno â’r swyddfa breifat hefyd. Dywedodd:

Ymunais â Swyddfa Cymru oherwydd fy mod am gael mwy o brofiad mewn sefyllfa Swyddfa Breifat, ac er mwyn datblygu fy ngyrfa yn y Gwasanaeth Sifil. Un o’r pethau gwych am fod yn brentis yn Swyddfa Cymru yw’r ffaith fod rhywun yn ymddiried cymaint ynoch chi i ofalu am y Gweinidogion, ac ar raddfa ehangach, am bobl Cymru.

Cyhoeddwyd ar 14 March 2016