Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: Alun Lewis yn un o awduron mwyaf talentog ei genhedlaeth

Swyddfa Cymru yn nodi can mlynedd ers geni’r bardd cyfnod y rhyfel

Alun Davies, John Pikoulis and Prof. April McMahon

Heddiw (9 Rhagfyr), cynhaliwyd derbyniad gan Swyddfa Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn Nhŷ Gwydyr i nodi canmlwyddiant geni’r bardd o Gymru, Alun Lewis.

Ganwyd Lewis yng Nghwmaman a chaiff ei gydnabod fel un o awduron barddoniaeth a rhyddiaith mwyaf arwyddocaol Cymru yn yr 20fed ganrif.

Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth yn 17 oed, lle cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Hanes, cyn dychwelyd yno i ddilyn cwrs ymarfer dysgu.

Yn 1940 ymunodd â’r Peirianwyr Brenhinol a chafodd ei brofiadau yn arwain y gwasanaeth milwrol yn India ac ym Myanmar yn ystod yr Ail Ryfel Byd ddylanwad aruthrol ar ei waith.

Cyn iddo farw cyn ei amser yn 1944, cafodd Lewis fwynhau pedair blynedd o lwyddiant llenyddol, gan gyhoeddi casgliad o gerddi o’r enw ‘Raiders’ Dawn’ a stori fer ‘The Last Inspection’. Flwyddyn ar ôl iddo farw, cyhoeddwyd ail gasgliad o’i gerddi, ‘Ha! Ha! Among the Trumpets’, ac yna’r casgliad o straeon byrion, ‘In the Green Tree’, dair blynedd yn ddiweddarach (1948).

Cynhaliwyd y derbyniad i nodi can mlynedd ers geni’r bardd gan Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April MacMahon ac roedd John Pikoulis, awdur cofiant Lewis, hefyd yn bresennol.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Roedd gwaith Alun Lewis yn procio’r meddwl ac roedd yn un o awduron mwyaf talentog ei genhedlaeth. Mae ei fywyd a’r amser a dreuliodd yn y fyddin yn dod yn fyw ac yn cael ei gyfleu mewn modd credadwy yn ei ryddiaith ac mae pobl yn dal i ddarllen ac astudio ei waith ledled y byd.

Mae canmlwyddiant ei eni yn gyfle i ddod â’i waith pwysig i’r amlwg unwaith eto, ac i genedlaethau sydd i ddod gael mwynhau’r gwaith hwnnw.

Dywedodd yr Athro April MacMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

Roedden ni’n falch iawn o gynnal y digwyddiad hwn heddiw, ar y cyd â Swyddfa Cymru a Seren Books. Mae’n briodol iawn fod y digwyddiad yn cael ei gysylltu â Phrifysgol Aberystwyth a bod ein cydweithwyr yn yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol yn cyd-noddi’r noson.

Roedd gan Alun Lewis gysylltiad cryf ag Aberystwyth a’r Brifysgol. Ganwyd ef yng Nghwmaman, ger Aberdâr, ar 1 Gorffennaf 1915, ac yn y 1930au bu’n astudio Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth bryd hynny,

lle cyhoeddodd ei straeon cyntaf yng nghylchgrawn y coleg, Y Ddraig. Ar ôl graddio yn 1935 gyda gradd dosbarth cyntaf, dilynodd Lewis astudiaethau ôl-radd ym maes hanes yr oesoedd canol ym Mhrifysgol Manceinion, cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1937 i hyfforddi fel athro.

Cyhoeddwyd ar 9 December 2015