Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn annerch arweinwyr busnes yn nigwyddiad CBI Cymru

Canolbwyntiodd y digwyddiad rhithiwr ar y pandemig COVID-19 a Chyfnod pontio'r DU.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi ymuno â phobl busnes i drafod y paratoadau busnes ar gyfer diwedd cyfnod pontio’r DU o’r UE a phandemig y coronafeirws.

Mynychodd cynrychiolwyr ar draws bob sector a rhanbarthau yng Nghymru ddigwyddiad rhithiol gan gynnwys Openreach, Coleg Sir Benfro a UPM.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y digwyddiad y bydd diwedd y cyfnod pontio ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020, yn dilyn ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn gynharach eleni, sy’n golygu y bydd rheolau newydd yn effeithio ar bobl, busnesau a theithio i mewn ac allan o’r UE.

Os bydd cytundeb masnach gyda’r UE neu beidio, ar ôl 1 Ionawr bydd newidiadau i’r ffordd y bydd busnesau yn mewnforio ac allforio nwyddau, y broses o gyflogi pobl o’r UE a’r ffordd y darperir gwasanaethau ym marchnadoedd yr UE. Anogodd Mr Hart i fusnesau ledled Cymru i baratoi ar gyfer y newidiadau ar unwaith

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae busnesau yn gweithredu dan amgylchiadau heriol iawn ar hyn o bryd oherwydd y pandemig ac mae gan Lywodraeth y DU nifer o gynlluniau ar gael gan gynnwys benthyciadau a gohirio trethi – yn ogystal â’r cynllun ffyrlo – i’w cefnogi nhw a’i gweithwyr drwy’r cyfnod anodd hwn.

Ond rwyf hefyd yn annog busnesau i edrych ymlaen at y newidiadau sydd eu hangen i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio sydd, fel y gwyddom, yn agosáu yn gyflym. Os ydym yn barod ar gyfer pob senario, yna, gyda’n gilydd gallwn fanteisio ar gyfleoedd newydd ac adfer yn dilyn y pandemig.

Gall busnesau gael rhagor o wybodaeth am beth sydd angen iddynt ei wneud drwy ymweld â gov.uk/transition.cy a defnyddio’r offeryn gwirio.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 10 November 2020