Stori newyddion

Heddluoedd Cymru yn Cyfarfod ag Ysgrifennydd Cymru

Fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, ategu ei hymrwymiad i heddluoedd Cymru heddiw (16 Ionawr 2012) wrth iddi gyfarfod a chynrychiolwyr…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, ategu ei hymrwymiad i heddluoedd Cymru heddiw (16 Ionawr 2012) wrth iddi gyfarfod a chynrychiolwyr o bob heddlu yn Discovery House, Caerdydd.

Fe wnaeth Carmel Napier, Heddlu Gwent, Peter Vaughan, Heddlu De Cymru a Ian Arundale, Heddlu Dyfed Powys, fanteisio ar y cyfle i amlinellu’r problemau sy’n eu hwynebu nhw a’u cymunedau ar hyn o bryd. Ymunwyd a nhw gan Gareth Pritchard, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, drwy gyfrwng cynhadledd fideo.

Ar ol y cyfarfod, cyflwynwyd bathodynnau’r heddluoedd a oedd yn bresennol i Ysgrifennydd Cymru, er mwyn pwysleisio’r berthynas gref sy’n parhau i fod rhyngddynt.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r cyfarfodydd rheolaidd hyn gyda’n Prif Gwnstabliaid yn amhrisiadwy gan eu bod yn rhoi syniad go iawn i mi o’r problemau maent yn eu hwynebu, yn ogystal a’r llwyddiannau maent wedi’u cael wrth gadw’r gymuned yn ddiogel.

“Mae ein pedwar heddlu yn gwneud gwaith rhagorol wrth fynd i’r afael a throsedd ac anrhefn, ac rwyf am sicrhau ein bod yn parhau i weithio’n agos gyda’n gilydd er mwyn i mi gael clywed yn uniongyrchol am y materion sy’n eu poeni, ac am yr hyn y gall y llywodraeth roi sylw iddo.

“Bydd y bathodynnau yn cael eu dangos ar y wal ym mynedfa Tŷ Gwydyr, er mwyn i’r holl ymwelwyr weld ein cysylltiad balch a heddluoedd Cymru.”

Cyhoeddwyd ar 16 January 2012