Stori newyddion

Gwasanaethau Cymraeg ar gael yn Nhŷ'r cwmnïau

Rydym yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i'n holl gwsmeriaid sydd eisiau cyfathrebu â ni yn Gymraeg.

A person in a suit holding a little welsh flag.

Yn Nhŷ’r Cwmnïau, rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall ein cwsmeriaid gyfathrebu â ni yn Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud.

Rydym yn cynnig gwasanaeth Cymraeg fel bod ein cwsmeriaid yn gallu siarad â ni neu anfon neges e-bost atom yn Gymraeg, a gall unrhyw gwmni a gofrestrwyd yng Nghymru gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn. Os ydych chi’n cysylltu â ni yn Gymraeg, byddwn yn eich ateb yn Gymraeg bob amser, ond bydd llythyrau a ddarperir ichi gan gyfrifiadur yn ddwyieithog.

Hefyd rydym yn postio cynnwys Cymraeg ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys fideos ag isdeitlau Cymraeg ar YouTube. Gallwch ofyn cwestiwn inni yn Gymraeg ar unrhyw un o’n sianelau cyfryngau cymdeithasol. Eto, byddwn bob amser yn eich ateb yn Gymraeg.

Gallwch gorffori cwmni yn Gymraeg a hynny ar lein. Byddwn hefyd yn anfon atoch dystysgrif gorffori ddwyieithog. Gallwch hefyd ffeilio’ch cyfrifon ar lein yn Gymraeg.

Os oes angen ichi anfon ffurflen bapur atom neu ffeilio’ch cyfrifon ar bapur, gallwch wneud hynny yn Gymraeg. Mae ein holl ffurflenni ffeilio mwyaf cyffredin ar gael yn ddwyieithog.

Rydym hefyd yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’n panel defnyddwyr, a byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Mae ein panel defnyddwyr yn ein helpu i ddeall sut mae ein cwsmeriaid yn defnyddio ein gwasanaethau digidol, a hoffem sicrhau bod gennym amrywiaeth eang o ddefnyddwyr sy’n fodlon rhoi adborth am eu profiadau o ddefnyddio ein gwasanaethau Cymraeg.

Mae mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth Cymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau ar gael yma.

Os hoffech anfon adborth atom, anfonwch neges e-bost at UnedyGymraeg@companieshouse.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 18 February 2020