Datganiad i'r wasg

Llwyddiannau derbynwyr Anrhydeddau Pen-blwydd Jiwbilî Cymru yn cael eu dathlu

Mae seren pêl-droed Cymru Gareth Bale a'r gantores Bonnie Tyler ymhlith pobl o Gymru i dderbyn gwobrau ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd Jiwbilî'r Frenhines.

Platinum Jubilee Honours

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi canmol pobl o Gymru sydd wedi derbyn gwobrau ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd Jiwbilî’r Frenhines.

Mae’r rhestr yn cydnabod gwaith a chyflawniadau ystod eang o bobl ryfeddol ledled y Deyrnas Unedig o bob cefndir.

Darllenwch y rhestr lawn o dderbynwyr yma.

Ymhlith y derbynwyr o Gymru yn 2022 mae’r seren bêl-droed o Gymru Gareth Bale sy’n derbyn MBE am wasanaethau i bêl-droed ac elusen, y gantores Bonnie Tyler (Gaynor Sullivan) sy’n derbyn MBE am wasanaethau i gerddoriaeth, y bardd Dr Gwyneth Lewis sy’n derbyn MBE, y cyflwynydd tywydd Derek Brockway sy’n derbyn BEM a’r canwr a’r darlledwr Wynne Evans sydd hefyd yn derbyn BEM.

Eraill sy’n derbyn gwobrau yn cynnwys cyn Prif Weithredwr S4C Owen Evans sydd â CBE am wasanaethau i ddarlledu yng Nghymru a’r Gymraeg, yr Athro Uzo Iwobi sy’n derbyn CBE am wasanaethau i gydraddoldeb hiliol, Richard Walker, Rheolwr Gyfarwyddwr Iceland foods yng Nglannau Dyfrdwy, sydd ag OBE am wasanaethau i fusnes a’r amgylchedd a Patricia Anne Husselbee sy’n 80 oed o Gasnewydd, sydd â BEM am ei gwasanaeth 64 mlynedd i’r Lleng Prydeinig Brenhinol.

Gan fynegi ei ddiolch am gyflawniadau ysbrydoledig yr holl dderbynwyr, llongyfarchodd Mr Hart bawb a chafodd eu cydnabod gyda gwobr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Yn y flwyddyn Jiwbilî arbennig hon, rwyf unwaith eto wedi fy ysbrydoli gan straeon y nifer fawr o bobl o bob cwr o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod yn haeddiannol ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Yn ogystal ag anrhydeddu pobl sydd wedi rhagori mewn chwaraeon a’r celfyddydau, mae’r gwobrau hyn yn dathlu unigolion sy’n rhoi yn ôl i’r rhai o’u cwmpas, drwy eu gwaith a’u bywydau personol. Mae’n galonogol gweld yr ystod amrywiol iawn o dderbynwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i elusennau, addysg, gwaith cymunedol ac iechyd.

Rwy’n llongyfarch pob person sy’n cael ei anrhydeddu ac yn diolch iddynt am eu cyfraniad amhrisiadwy.

Ymhlith y rhai eraill sy’n derbyn anrhydeddau o Gymru mae AS Llanelli Nia Griffith sy’n derbyn Damehood, prif weithredwr Clwb Criced Morgannwg Hugh Morris gydag MBE am wasanaethau i griced ac arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, sy’n derbyn OBE, a chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru Brynmor Williams sy’n derbyn MBE.

Cyhoeddwyd ar 1 June 2022