Stori newyddion

Economi Cymru yw un o'r rhai sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig

Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ymweld â'r allforiwr technoleg Sure Chill yng Nghaerdydd i ddysgu rhagor am y farchnad allforio yng Nghymru.

Mae marchnad allforio ffyniannus wedi bod yn hollbwysig wrth helpu i wneud Cymru’n un o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig sy’n tyfu gyflymaf, gan gyrraedd gwerth o £60 biliwn.

Gan bwysleisio bod allforion o Gymru yn werth bron i £15 biliwn yn 2016, gyda chynnydd o fwy na 10 y cant o flwyddyn i flwyddyn, bydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss, yn dweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i economi ôl-Brexit sy’n rhoi mwy o ryddid i Gymru allforio nwyddau dramor a pharhau i dyfu.

Wrth ymweld â phencadlys newydd sbon Sure Chill yng Nghaerdydd, bydd Liz Truss ac Alun Cairns yn gweld drostynt eu hunain y dechnoleg achub bywyd o Gymru sy’n cael ei hallforio i 47 o wledydd ledled y byd. Mae Sure Chill yn cynhyrchu ac yn creu technoleg sy’n darparu gwasanaeth oergelloedd meddygol heb unrhyw bŵer, hyd yn oed yn yr amodau poethaf.

Meddai Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss:

O fwyd byd-enwog o Gymru i dechnoleg uwch, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig am i Gymru werthu hyd yn oed mwy o’r hyn sydd ganddi i’w gynnig ar draws y byd.

Mae economi Cymru yn parhau i dyfu, yn rhannol diolch i’r economi allforio gref sydd yma. Dyna pam mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi cannoedd ar filiynau o bunnoedd yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu elwa ar y cytundebau masnach annibynnol rydym yn paratoi ar eu cyfer ar ôl Brexit.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn dweud:

Mae Cymru’n wlad uchelgeisiol sy’n wynebu allan, yn gartref i rai o’r busnesau mwyaf arloesol sy’n datblygu cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu ledled y byd.

Mae Sure Chill yn enghraifft wych o gwmni sy’n manteisio ar y galw byd-eang am ei nwyddau. Mae’n dangos sut gall arloesi uchelgeisiol yng Nghymru fynd ymhell - gan achub a diogelu bywydau pobl gannoedd ar filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i gefnogi unrhyw fusnes yng Nghymru sy’n dymuno dilyn eu hôl troed a manteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd.

Dengys y ffigurau diweddaraf fod nwyddau allforio o Gymru i Ewrop yn werth £9.5 biliwn, ac roedd yr hyn a werthwyd i ogledd cyfandir America yn werth £2.5 biliwn.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru wedi anfon Canllaw Allforio Cymru at fwy na 26,000 o fusnesau yng Nghymru a nodwyd fel allforwyr posibl.

Mae’r canllaw penodol i Gymru yn nodi’r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmnïau yng Nghymru sy’n allforio’n llwyddiannus.

Yn y Gyllideb, diolch i’r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, cynyddodd cyllideb Llywodraeth Cymru £1.2 biliwn. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn buddsoddi mwy na £615 miliwn ym Margeinion Dinesig Caerdydd ac Abertawe dros yr 20 mlynedd nesaf, ochr yn ochr â gweithio ar fargeinion twf ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru, ac uwchraddio trafnidiaeth hanfodol yng ngorllewin Cymru.

Bydd y Gweinidogion hefyd yn ymgysylltu â chynrychiolwyr o sector technoleg ffyniannus Cymru mewn cyfarfod ym Mhwynt Caspian mewn partneriaeth â’r ESTnet - rhwydwaith o sefydliadau technoleg y mae eu haelodau’n dylunio, datblygu, cynhyrchu neu integreiddio technolegau electronig a meddalwedd.

Cyhoeddwyd ar 26 January 2018