Datganiad i'r wasg

Dweud wrth fusnesau Cymru ‘peth gwych yw allforio’ – a bydd yn helpu eich busnes i dyfu

UKTI yn lansio ymgyrch allforio fwyaf uchelgeisiol y DU erioed

Exporting is GREAT

Bydd cwmnïau Cymru yn cael budd o ymgyrch newydd dros gyfnod o bum mlynedd a fydd yn cyflwyno cyfleoedd allforio amser-real y gall busnesau wneud cais amdanynt ar unwaith, mewn ymgais i gael 100,000 o gwmnïau ychwanegol yn allforio erbyn 2020.

Exporting is GREAT – rhan o ymgyrch fyd-enwog GREAT – yw ymgyrch allforio fwyaf uchelgeisiol y DU erioed. Am y tro cyntaf, bydd yn cyflwyno cyfleoedd allforio amser-real ar draws cyfryngau a sianelau digidol i fusnesau – o bob maint, ar draws sectorau ac ym mhob rhanbarth o’r DU – y gallant wneud cais amdanynt ar unwaith. Aiff y llwyfan yn fyw gyda channoedd o gyfleoedd busnes, a fydd ar gael yn www.exportingisgreat.gov.uk. Daw oddeutu 1000 ychwanegol ar-lein bob mis.

I gyd-fynd â’r lansiad, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ar draws y DU fel rhan o Wythnos Exporting is GREAT. Anelir y rhain at fewnforwyr mwy profiadol yn ogystal â’r rhai sydd ar fin cychwyn ar y daith. Yng Nghymru cynhelir ExploreExports, digwyddiad am ddiwrnod cyfan a gynhelir yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd, ddydd Iau 12 Tachwedd 2015.

Bydd yr ymgyrch yn darparu cyngor ac arbenigedd i gefnogi busnesau ym mhob cam ar eu taith allforio, o’r diddordeb cyntaf hyd at werthu yn y farchnad. Bydd hyn yn cynnwys Sioe Deithiol Exporting is GREAT a fydd yn teithio ar hyd a lled y wlad yn rhoi cymorth wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n allforio am y tro cyntaf, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gysylltu busnesau â chyfleoedd byw i allforio.

Bydd cwmnïau hefyd yn cael cyfle i ymweld â’r tryc Export Hub, a fydd yn teithio drwy Gymru a Lloegr ym mis Chwefror 2016.

Gydol yr ymgyrch bydd busnesau hefyd yn manteisio ar bartneriaethau masnachol cadarn: yn cynyddu’r cyflenwad o gyfleoedd masnachu sydd ar gael, yn darparu cynigion a gwasanaethau ar ddisgownt i fusnesau bach a chanolig.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

O Wisgi Penderyn i BCB International, mae llwyddiant busnesau a grëwyd yng Nghymru ar lwyfan y byd yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan gaiff arloesedd ac uchelgais eu cyfuno â chynnyrch gwych a hunaniaeth Gymreig gref.

Ni fu’r potensial erioed yn fwy i gwmnïau o bob maint estyn allan at gwsmeriaid newydd a marchnadoedd proffidiol newydd y tu hwnt i’r DU. Rydym wedi ymroi i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac UKTI i sicrhau fod busnesau Cymru yn sylweddoli’r potensial hwn, gan helpu i roi Cymru ar lwybr cadarn tuag at ddod yn enghraifft ddisglair o lwyddiant allforio.

Dywedodd Edwina Hart Gweinidog yr Economi Cymru:

Mae datblygu marchnadoedd allforio newydd ar gyfer busnesau Cymru yn hanfodol i’n cynlluniau i greu twf economaidd a swyddi. Ers 1999 mae gwerth allforion o Gymru wedi mwy na dyblu ac ar hyn o bryd y mae’n werth amcangyfrif o £11bn y flwyddyn i economi Cymru ac mae’r duedd hirdymor ar gyfer allforion Cymru yn gadarnhaol iawn.

Rydym eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy gefnogi hyd yn oed mwy o fusnesau Cymru ym mhob cam o’u taith allforio, i gynyddu’u masnach ac archwilio marchnadoedd newydd. Gan weithio gyda Masnach a Buddsoddi’r DU (UKTI), ac adeiladu ar lwyddiant digwyddiad blaenorol, rydym wedi datblygu’r rhaglen ar gyfer ‘Exploring Exports’ eleni gyda’r amcanion hynny mewn golwg.

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Exporting is GREAT yw ymgyrch allforio fwyaf uchelgeisiol y llywodraeth erioed. Ei nod yw ysbrydoli a chefnogi 100,000 o allforwyr ychwanegol yn y DU i werthu’u nwyddau a’u gwasanaethau dramor erbyn 2020. Nod yr ymgyrch yw troi’r DU yn genedl allforio fwyaf y byd, gan danio dychymyg y cyhoedd, hybu hyder busnesau a balchder cenedlaethol a grymuso mwy o gwmnïau’r DU i fynd allan a llwyddo mewn marchnadoedd byd eang.

  2. Bob dydd ym mhob un o wledydd y byd, mae rhywun yn rhywle eisiau neu angen cynnyrch neu wasanaeth o’r DU. Mae’r galw yno, fe allech chi fod yno hefyd. I gael gwybod mwy, ewch yma

  3. Bydd cam cyntaf yr ymgyrch yn weithredol ar draws y DU o 8 Tachwedd 2015 i fis Mawrth 2016 ac yn cynnwys hysbysebu ar y Teledu, digidol, radio, yn yr awyr agored ac yn y wasg. Mae’r ymgyrch yn cynnwys cyfres o ffilmiau sy’n cynnwys entrepreneuriaid proffil uchel, perchnogion busnesau rhyngwladol a phencampwyr allforio, a fydd yn dangos y galw byd eang sydd am gynnyrch a gwasanaethau’r DU.

  4. Mae cymorth ar-lein ar gael yn www.exportingisgreat.gov.uk. Lluniwyd y safle i ymgysylltu, cyfarwyddo a chefnogi busnesau sydd wedi ymateb i’r ymgyrch. Cesglir a chofnodir data pob defnyddiwr i ddibenion rheoli perthynas (CRM) a gwerthuso. O’r diwrnod cyntaf, gall allforwyr tro-cyntaf gofrestru eu diddordeb mewn cyfleoedd masnachu byw, cael gafael ar gefnogaeth i allforio, canfod mwy am ddigwyddiadau Wythnos Exporting is GREAT a Sioe Deithiol Exporting is GREAT a chofrestru ar gyfer ein canllaw hanfodol ar gyfer allforio.

  5. Mae Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI) yn un o adrannau’r llywodraeth sy’n helpu cwmnïau yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang. Rydym hefyd yn helpu cwmnïau o dramor i ddod â’u buddsoddiad o safon uchel i economi’r DU – sy’n cael ei chydnabod fel lle gorau Ewrop ar gyfer llwyddo mewn busnes byd-eang. Mae UKTI yn cynnig arbenigedd a chysylltiadau drwy ei rhwydwaith helaeth o arbenigwyr yn y DU, ac mewn Llysgenadaethau Prydain a swyddfeydd diplomyddol eraill ledled y byd. Rydym yn darparu’r dulliau y mae eu hangen ar gwmnïau i fod yn gystadleuol ar lwyfan y byd. Am ragor o wybodaeth, ewch yma

Cyhoeddwyd ar 10 November 2015