Datganiad i'r wasg

Cymru'n "cystadlu â'r goreuon ar lwyfan chwaraeon y byd" medd Gweinidogion Llywodraeth y DU

Alun Cairns: "Mae ein timau gwych a'm hathletwyr yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o sêr byd chwaraeon"

O ymdrechion arwrol carfan Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd i fedalau aur a enillwyd ledled byd, heddiw bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gweld yr hyder a’r uchelgais sy’n gyrru’r sector chwaraeon ymlaen yng Nghymru.

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns yn croesawu Gweinidog Chwaraeon y DU Tracey Crouch i dde Cymru i ymweld â rhai o’r cyfleusterau sy’n prysur ddatblygu’n ddeorfa ar gyfer llwyddiant ym myd chwaraeon. Bydd y Gweinidogion, ynghyd â Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates yn ymweld â Chanolfan Ragoriaeth Genedlaethol Undeb Rygbi Cymru – “ysgol berffeithio” perfformiad uchel a agorwyd yn 2009 i ddarparu hyfforddiant a chyfleusterau cefnogi o ansawdd uchel. Buddsoddodd Chwaraeon Cymru £1.5 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol tuag at y Ganolfan Ragoriaeth drawiadol.

Tra byddant yn y ganolfan, bydd y Gweinidogion yn cynorthwyo i lansio Cwpan Prydain ac Iwerddon y tymor hwn, cystadleuaeth sy’n dod â chlybiau’r gwledydd cartref ynghyd ac yn cynorthwyo sêr newydd rygbi i flodeuo. Bydd y Gweinidogion hefyd yn gwylio carfanau Rygbi Saith Bob Ochr a Rygbi Merched Saith Bob Ochr Cymru wrth iddynt gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi.

I weld sut y mae’r genhedlaeth nesaf o sêr rygbi’n cael eu hyfforddi a’u hysbrydoli gan Gwpan Rygbi’r Byd 2015, bydd Alun Cairns yn mynd ymlaen wedyn i Ysgol Uwchradd Eastern High yn Nhredelerch i gwrdd â rhai o’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y rhaglen datblygu rygbi, Hwb y Clwb.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae angerdd ac ymroddiad i chwaraeon yn nodwedd sy’n diffinio Cymru. Er mai cenedl fach ydym, rydym yn cystadlu gyda’r goreuon ar lwyfan chwaraeon y byd, gyda llwyddiannau ymhobman.

Mae ein timau gwych a’m hathletwyr yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o sêr byd chwaraeon ac yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer chwaraeon o safon fyd-eang – gan gyfrannu miliynau i economi Cymru a denu ymwelwyr o bedwar ban byd i’n stadia.

Dywedodd Tracey Crouch, Gweinidog Chwaraeon y DU:

Daeth Cwpan Rygbi’r Byd 2015 â’r DU at ei gilydd a hon oedd y gystadleuaeth fwyaf a’r orau hyd yma; dylem i gyd fod yn falch o fod yn rhan o dwrnamaint a groesawodd gefnogwyr o bob rhan o’r byd a hynny gyda breichiau agored.

Bu pobl Caerdydd a Chymru’n chwarae eu rhan ar y maes chwarae ac oddi arno, ac nid oes gennyf amheuaeth fod tîm Cymru wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc gyda’u perfformiad a’u penderfyniad. Dyma sail wych i Rygbi Cymru adeiladu etifeddiaeth gref arni.

Dywedodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru:

Mae sêr chwaraeon Cymru yn parhau i brofi eu bod yn rym o bwys ar y llwyfan rhyngwladol.

Enghraifft wych o hyn yw perfformiad Cymru’n ddiweddar yng Nghwpan Rygbi’r Byd, lle dangoswyd dewrder a phenderfyniad, er gwaethaf llawer o anafiadau, gan guro cystadleuwyr cryf iawn yn ystod grwpiau cychwynnol y twrnamaint.

Yn ogystal, mae perfformiadau fel hyn yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan yn y gamp ac mewn gweithgaredd corfforol, gan ein helpu i ddod yn genedl sy’n llawer mwy iach a heini.

Dywedodd Pennaeth Rygbi Undeb Rygbi Cymru Josh Lewsey:

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn benodol cyn Cwpan Rygbi’r Byd, roeddem yn canolbwyntio ar sefydlu strwythurau, systemau a chynllun fel sylfaen ar gyfer iechyd y gêm yng Nghymru, ar gyfer y chwaraewyr gorau a’r gamp yn y gymuned.

Rydym wedi ymroi nid yn unig i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan yn y gamp ar bob lefel, ond i ddefnyddio gwerthoedd rygbi’r undeb i ddatblygu pobl dda a modelau rôl sy’n ysbrydoli.

Yng nghalendr chwaraeon rhyngwladol 2016 bydd Pencampwriaethau Ewrop yn cael eu cynnal yn Ffrainc, gyda Chymru’n ennill ei lle yn rowndiau terfynol pencampwriaeth bêl-droed ryngwladol fawr am y tro cynaf ers bron i 60 mlynedd. Wedyn daw Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio lle bydd athletwyr Cymru’n cynrychioli Tîm GB a Pharalympau GB ym mhrifddinas Brasil.

Mae gan Gymru 78 o athletwyr elît ar Raglen Safon Fyd-Eang Chwaraeon y DU. Yn cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol a buddsoddiad llywodraeth y DU mae’r rhaglen yn sicrhau bod gan athletwyr mwyaf dawnus Prydain bob cyfle i wireddu’u potensial yn llawn yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016.

Mae llwyddiannau Cymreig nodedig diweddar yn cynnwys medal aur i’r bencampwraig Taekwondo Olympaidd Jade Jones yn y Taekwondo Grand Prix ym mis Hydref. Hefyd, enillodd yr athletwr Paralympaidd Aled Siôn Davies ddwy fedal aur am daflu’r ddisgen a thaflu pwysau ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd IPC yn Doha.

Cyhoeddwyd ar 11 November 2015