Datganiad i'r wasg

Datganiad y Swyddfa Gymreig mewn ymateb i gyhoeddiad Unilever

Wrth ymateb i’r newyddion fod Unilever am lansio ymgynghoriad 90 diwrnod ar nifer o swyddi ar fydd yn cael eu colli yn ei safleoedd cyfredol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wrth ymateb i’r newyddion fod Unilever am lansio ymgynghoriad 90 diwrnod ar nifer o swyddi ar fydd yn cael eu colli yn ei safleoedd cyfredol yn Abertawe a Phenybont ar Ogwr, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw:

“Er fy mod yn deall mai penderfyniad masnachol yw hwn i Unilever, fe fydd y newyddion y bydd yna nifer yn colli swyddi yn y safleoedd yn Abertawe a Phenybont ar Ogwr yn achosi llawer iawn o bryder i’r gweithwyr, y teuluoedd a’r cymunedau dan sylw. 

 ”Rwyf yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan y cwmni a chan asiantaethau perthnasol ac rwyf yn benderfynol o weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cynnig yr holl gefnogaeth bosibl. 

“Rwyf yn deall y bydd pecyn cefnogaeth cynhwysfawr yn cael ei gynnig i’r rhai hynny a allai wynebu colli swydd, gan gynnwys cyfleoedd i rai gweithwyr adleoli i Port Sunlight. Fe fydd y newyddion bod 50 o swyddi newydd am gael eu creu yng nghanolfan ddosbarthu Unilever yng Nglannau Dyfrdwy hefyd yn creu mwy o gyfleoedd yng ngogledd Cymru.

“Ein blaenoriaethau fel Llywodraeth yw parhau i ganolbwyntio ar greu’r amodau cywir er mwyn sicrhau twf economaidd. Mae newyddion heddiw yn ein hatgoffa o ba mor bwysig yw hi i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd a Llundain weithio gyda’i gilydd i gadw swyddi, hyrwyddo cyfleoedd busnes yng Nghymru a sicrhau bod ein gwlad yn parhau i fod yn lle cystadleuol i wneud busnes.”

Cyhoeddwyd ar 13 September 2012