Stori newyddion

Gweinidogion Swyddfa Cymru: Cytundeb hanesyddol rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C yn newyddion da

Mae Gweinidogion Swyddfa Cymru wedi ymateb i’r cyhoeddiad bod Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC wedi dod i gytundeb hanesyddol heddiw [30…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidogion Swyddfa Cymru wedi ymateb i’r cyhoeddiad bod Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC wedi dod i gytundeb hanesyddol heddiw [30 Ionawr] sy’n sicrhau partneriaeth newydd rhwng y darlledwyr.

Bydd y Cytundeb Gweithredu newydd yn sicrhau bod gan deledu Cymraeg ddyfodol diogel wrth i S4C symud at gael ei gyllido’n bennaf gan y BBC tan 2017 ar yr un pryd a sicrhau annibyniaeth olygyddol, reolaethol a gweithredol S4C.

O fis Ebrill 2013 ymlaen bydd y rhan fwyaf o incwm cyhoeddus S4C yn dod gan y BBC drwy ffi’r drwydded. Bydd Awdurdod S4C yn parhau i fod yn gorfforaeth statudol annibynnol, sydd hefyd yn cael cyllid gan Lywodraeth y DU ac sy’n cynhyrchu ei refeniw masnachol ei hun.

Mae’r cytundeb hwn yn dilyn proses ymgynghori a gafodd ei lansio gan yr Ymddiriedolaeth a’r Awdurdod yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Wrth groesawu’r newyddion dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Cymru:

“Ym mis Tachwedd llynedd roeddem yn dathlu pen-blwydd S4C yn 30 oed a oedd yn garreg filltir enfawr i ddarlledu Cymraeg.

“Mae’r newyddion heddiw ynghylch y cytundeb rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C yn rhoi’r diogelwch a’r sefydlogrwydd i S4C a fydd yn sicrhau eu bod yn parhau i dyfu a mynd o nerth i nerth.”

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru sydd a chyfrifoldeb dros ddarlledu, Stephen Crabb:

“Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn hanesyddol i Gymru ond hefyd i ddarlledu ar draws y sector drwyddo draw.

“Mae S4C wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl Cymru dros y 30 mlynedd diwethaf ac wedi cyfrannu llawer iawn at y diwydiant creadigol, y sector darlledu ac economi Cymru.”

Diwedd

Nodyn i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i safle S4C: **http://www.s4c.co.uk/e_press_level2.shtml?id=726**

Cyhoeddwyd ar 30 January 2013