Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu cyhoeddiad y Prif Weinidog am y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol

Heddiw, croesawodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, gyhoeddiad y Prif Weinidog y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn awr yn gallu cymryd rhan…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, croesawodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, gyhoeddiad y Prif Weinidog y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn awr yn gallu cymryd rhan yn y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol (NCS) yn ystod gwyliau hanner tymor yr hydref.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gynnig lleoedd NCS i 90,000 o bobl ifanc yn eu harddegau yn Lloegr erbyn 2014, a hynny drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na dim ond yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r Gweinidog wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ei bod yn achub ar y cyfle i wneud yn siŵr bod pobl ifanc Cymru yn cael cymryd rhan hefyd.

Dywedodd Mr Jones:

“Mae cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw yn newyddion gwych ac rwy’n falch y bydd Gogledd Iwerddon yn cynnal cynllun peilot yn yr hydref. Rwyf eisoes wedi annog Llywodraeth Cymru i gymryd rhan yn y cynllun Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol ac rwy’n gobeithio y bydd yn defnyddio cyhoeddiad heddiw fel cyfle i ddechrau cynnal trafodaethau a Llywodraeth y DU ynglŷn a rhoi’r cynllun hwn ar waith yng Nghymru.

“Byddaf yn ymweld a Phrosiect NCS yn Henffordd yr wythnos nesaf a byddwn yn gwahodd Carl Sergeant, y Gweinidog perthnasol yng Nghymru, i ymuno a mi er mwyn iddo gael gweld dros ei hun pa mor fanteisiol yw’r cynllun NCS i’n pobl ifanc.

Mae NCS yn gyfle ardderchog i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a magu hyder, ac rwy’n awyddus i weld pob unigolyn ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i gymryd rhan.”

Ac yntau’n ymweld a phobl ifanc o Dde Llundain ar drip awyr agored yng Nghymru heddiw, dywedodd y Prif Weinidog:

“Fy uchelgais yw rhoi cyfle i bob unigolyn ifanc gymryd rhan yn y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol - cyfle a fydd yn newid eu bywydau. Dyna pam mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn sicrhau bod y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol ar gael drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn yr haf, fel rhan o’n cynlluniau i roi cyfle i 90,000 o bobl ifanc gymryd rhan erbyn 2014.

“Mae’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yn gynllun sy’n buddsoddi mewn pobl ifanc - mae’n rhoi’r cyfle iddynt gwrdd a phobl o wahanol gefndiroedd ac i ddysgu sut gallant wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, gan ennill sgiliau newydd a magu hyder wrth wneud hynny. Mae pobl ifanc yn ymateb i’r cyfle hwn drwy ymrwymo bron i dri chwarter miliwn o oriau yn gwirfoddoli yr haf hwn.”

Cyhoeddwyd ar 7 August 2012