Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru’n ymweld â Phrifysgol Abertawe

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Y Farwnes Jenny Randerson heddiw [11 Chwefror] yn gweld ac yn clywed drosti’i hun sut y mae Prifysgol Abertawe …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Y Farwnes Jenny Randerson heddiw [11 Chwefror] yn gweld ac yn clywed drosti’i hun sut y mae Prifysgol Abertawe yn manteisio ar y cyfle i danlinellu ei statws fel canolfan ragoriaeth addysgol ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd Gweinidog y DU dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts, y byddai’r brifysgol yn derbyn £38 miliwn o Gronfa Buddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU (UK RPIF) i gefnogi datblygu cyfleusterau a phrosiectau newydd mewn meysydd yn cynnwys gwyddorau bywyd, ynni a gweithgynhyrchu uwch.

Yn ystod ei hymweliad a’r Brifysgol, bydd y Farwnes Randerson yn cwrdd a’r Is-Ganghellor, Yr Athro Richard Davies i drafod y cyfleoedd y mae’r cyllid newydd yn eu creu ar gyfer y myfyrwyr, a chaiff y newyddion diweddaraf am y cynlluniau i adeiladu ail gampws gwerth £450m i’r Brifysgol ar gyrion y ddinas.

Roedd cyllid UK RPIF i Brifysgol Abertawe yn rhan o gynllun £1 biliwn ehangach a fydd yn golygu lansio saith o bartneriaethau newydd rhwng prifysgolion a busnesau ar draws y DU.

Bydd y buddsoddiad yn ariannu partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe, British Petroleum (BP) a TATA Steel Europe i ddatblygu’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni yn y campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd newydd.

Bydd y Farwnes Randerson hefyd yn cael taith o gwmpas y Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) gan yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth y Coleg Meddygol. Y cyfleuster ymchwil meddygol a godwyd yn bwrpasol yw adain ymchwil y coleg meddygol, ac mae’n darparu cymorth i gwmniau uchel eu proffil i ddatblygu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau meddygol diweddaraf.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru sydd a chyfrifoldeb dros addysg uwch, y Farwnes Randerson:

“Fel cenedl fach sy’n cystadlu mewn economi fyd-eang, ni all Cymru lwyddo os na fydd ei phrifysgolion yn cyflawni rhagoriaeth ryngwladol. Mae Prifysgol Abertawe yn gwneud cyfraniad mawr i’n ffyniant i’r dyfodol.

“Mae’r adnoddau ymchwil a busnes a godwyd yn bwrpasol sydd ar gael yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd yn parhau i ddenu cwmniau a phroffil uchel sy’n gwneud gwaith hollbwysig ym maes ymchwil feddygol a gwyddonol.

“Mae’r bartneriaeth sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd rhwng y brifysgol, Tata Steel Europe a BP yn dangos yn glir y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer arloesi, masnacheiddio a thwf. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i feithrin cysylltiadau rhwng byd busnes a’r byd academaidd gan fod y cysylltiadau hyn yn chwarae rhan hynod bwysig o ran iechyd ein heconomi.”

Dywedodd yr Is-Ganghellor, Richard Davies:

“Mae Prifysgol Abertawe yn mynd ar i fyny’n gryf iawn, a bydd y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd newydd yn darparu cyfleoedd newydd cyffrous i fyfyrwyr, yn ehangu ein cyfleusterau ymchwil, ac yn ein galluogi i yrru adfywiad economaidd yn y rhanbarth. Ar yr un pryd, rydym yn ailddatblygu ein prif gampws i sicrhau amgylchedd modern ar gyfer myfyrwyr a staff.

“Rydym yn falch iawn o gael cyfle i ddangos i’r Gweinidog yr hyn yr ydym yn ei gyflawni yn Abertawe ac edrych ar ffyrdd i ni allu ymgysylltu’n llawn a’r cyfleoedd cyllido ar lefel y DU.”

Cyhoeddwyd ar 11 February 2013