Gweinidog Swyddfa Cymru yn gweld y Gymdeithas Fawr ar waith yn Llandudno
Heddiw (7 Gorffennaf) bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, yn cadeirio ail Fforwm Ymgynghorol y Gymdeithas Fawr dan arweiniad Swyddfa…
Heddiw (7 Gorffennaf) bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, yn cadeirio ail Fforwm Ymgynghorol y Gymdeithas Fawr dan arweiniad Swyddfa Cymru yn Llandudno.
Bydd y cyfarfod yn trin a thrafod ffyrdd o ennyn ymgysylltiad cymunedau a phrosiectau, partneriaethau a mentrau cymdeithasol yn eu cymdogaethau gyda golwg ar helpu pobl i ddod i benderfyniad am eu dyfodol.
Un prosiect sydd eisoes yn gwneud argraff yn yr ardal yw’r fenter gymdeithasol Vi-Ability. Bydd Mr Jones yn ymweld a’r fenter, sy’n mynd ati i drawsnewid clybiau pel-droed yn ganolfannau ‘cyfleoedd ac arweinyddiaeth’ ar gyfer unigolion yn eu cymuned drwy gyfrwng addysg, hyfforddiant a gwaith.
Mae Vi-Ability hefyd y cynnig y siawns i fusnesau ac unigolion o bob oed ddatblygu eu sgiliau rheoli masnachol yn ogystal a rhoi profiad ymarferol iddynt.
Cyfarfu Mr Jones a Sylfaenydd y Prosiect, Kelly Davies. Mae Kelly yn gyn bel-droedwraig ryngwladol a hi yw’r ferch ieuengaf i ennill MBA yn y Diwydiannau Pel-droed. Yn ei gwaith, mae’n canolbwyntio ar fynd i’r afael a chlybiau pel-droed sy’n anghynaliadwy yn fasnachol a phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth addysg.
Hebryngodd y Gweinidog i’r Prosiect “Celf Graffiti” yn stadiwm clwb pel droed Conwy yn Y Morfa. Dan arweiniad yr artist lleol, Andrew Birch, mae’r gweithgaredd yn rhoi’r cyfle i gyfranogion hen ac ifanc yn y prosiect Vi-Ability ehangu eu gwybodaeth am Gelf Graffiti, yn ogystal a chyfle i feithrin eu sgiliau celfyddydol eu hunain drwy baentio murlun ym mhrif eisteddle gogleddol y maes.
Dywedodd Ms Davies: “Rydym yn falch iawn o groesawu’r Gweinidog i Vi-Ability a rhoi gwybod iddo am ein llwyddiannau hyd yma a’r syniadau arloesol sydd gennym ar gyfer y dyfodol. Rydym am greu argraff a chael dylanwad parhaol yn ein cymuned ac rydym yn edrych ymlaen at feithrin ein partneriaethau presennol a chreu perthnasoedd newydd a mudiadau eraill dros y misoedd i ddod.”
Dywedodd Mr Jones: “Mae Fforwm y Gymdeithas Fawr yn gyfrwng defnyddiol iawn ar gyfer rhoi cymorth, cynnig cyfleoedd a chreu rhwydweithiau i’r rheiny sydd am fuddsoddi yn nyfodol eu cymunedau. Er mai dyddiau cynnar ydyw yng nghyswllt Y Fforwm ei hun, rydw i’n gallu gweld yn barod ei fod yn arf defnyddiol o ran trin a thrafod y materion a allai ddatgloi ein potensial yng Nghymru.”
“Roedd yn falch iawn gen i gael y cyfle i ymweld a Vi-Ability heddiw i weld y gwaith gwych mae Kelly Davies yn ei wneud yn ei chymuned. Mae Vi-Ability yn cael effaith go iawn yng Nghonwy ac mae’n helpu unigolion i feithrin sgiliau cyflogaeth a sgiliau bywyd allweddol. Mae’n dangos os ydym yn annog pobl i gamu ymlaen a chwarae eu rhan, byddwn nid yn unig yn gwneud ein cymdeithas yn gymdeithas decach a mwy cydlynus, ond hefyd yn creu’r amodau ar gyfer diwylliant entrepreneuraidd ac ysbrydoledig.”