Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn canmol cais Dinas Diwylliant Bae Abertawe

Mae’r Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi canmol cynnig diwylliannol cyfoethog ac amrywiol Bae Abertawe yn ystod ymweliad â’r ardal i ddarganfod mwy am y cais i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Rhossili Bay on the Gower Peninsula

Rhossili Bay on the Gower Peninsula

Cyfarfu’r Farwnes Randerson â swyddogion Cyngor Abertawe sy’n helpu i hyrwyddo’r cais yn y Ganolfan Ddinesig yn Abertawe, cyn teithio ar hyd yr arfordir i’r Mwmbwls i ymweld ag un o brif atyniadau’r ardal i dwristiaid.

Mae cais Bae Abertawe yn cwmpasu cais ar y cyd gan Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin, ac mae bellach ar y rhestr fer gyda Dundee, Hull a Chaerlŷr i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2017.

Yn ystod y cyfarfod yng Nghyngor Abertawe, amlygodd swyddogion yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i hyrwyddo atyniadau diwylliannol Abertawe a chefn gwlad bryniog Penrhyn Gŵyr.

Mae’r Gŵyr wedi elwa yn ddiweddar o £1.3 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect ‘Achub Gŵyr…ac arbed ei werth’. Nod y prosiect fydd gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yr ardal tra’n diogelu ei hanes naturiol drwy ailsefydlu waliau arfordirol a thrwy helpu pobl i ddysgu am sut y gall materion fel newid yn yr hinsawdd effeithio ar y Gŵyr.

Fel rhan o’i hymweliad â’r ardal, ymwelodd y Gweinidog â Chastell Ystumllwynarth yn y Mwmbwls, sydd wedi bod yn destun gwaith adfer gwerth £3.1 miliwn, a ariennir yn rhannol hefyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae’r gwaith a wnaed ar yr adeilad rhestredig Gradd I o’r 12fed ganrif yn cynnwys cyfleusterau newydd i ymwelwyr, ardal addysgol a llwyfan gwylio a phont wydr 30 troedfedd o uchder sy’n arwain at Gapel Alina nad oedd ynghynt erioed ar agor i’r cyhoedd.

Dywedodd y Farwnes Jenny Randerson:

Ymwelais â Derry yn ddiweddar ac fe welais â’m llygaid fy hun sut mae’r economi leol a’r bobl leol wedi elwa o’r statws Dinas Diwylliant.

Roeddwn yn falch iawn o gwrdd â’r tîm sy’n cynrychioli cais Dinas Diwylliant Bae Abertawe 2017 heddiw, ac rwy’n ffyddiog y byddant yn cyflwyno’r achos cryfaf posibl i gipio’r teitl.

Mae’n bwysig ein bod yn tynnu sylw at harddwch yr ardal a’r diwylliant sy’n gysylltiedig â hi, a bod pobl leol yn achub ar bob cyfle i gefnogi’r cais. Mae Swyddfa Cymru yn llwyr gefnogol o gais Abertawe i ennill statws Dinas Diwylliant ac, yng nghyswllt y cais, bydd yn ymgysylltu’n llwyr â Llywodraeth Cymru, tîm y cais, ASau lleol a’r cyngor.

Yng Nghastell Ystumllwynarth, gallwn weld sut mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri - sy’n chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o gynnal a datblygu traddodiadau diwylliannol yng Nghymru - wedi helpu i ddatblygu ac adfer claddgelloedd, siambrau a murluniau canoloesol y gall ymwelwyr bellach eu darganfod.

Bydd yr arian sydd wedi’i fuddsoddi yn yr ardal hon yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cyfle i archwilio a dysgu am yr ardal fwyaf hardd ac ysblennydd hon o’r byd.

Mae Bae Abertawe yn llawn haeddu’r cyfle i gynrychioli diwylliant Cymru yn 2017 ac rwy’n annog pawb i gefnogi’r cais yn llwyr”.

Os bydd cais Bae Abertawe yn llwyddiannus, byddai’r rhaglen ar gyfer 2017 yn cynnwys gŵyl ar gyfer cerddorion di-gontract, labordy hanes uwch dechnoleg ar safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod, a phasiant i’r plant yn cynnwys dramâu, canu, dawnsio a dylunio.

Bydd pob dinas yn cyflwyno ei chais terfynol ym mis Medi a chaiff yr enillydd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.

Nodyn i Olygyddion:

*I gael rhagor o wybodaeth am y cyfarfod/ymweliad cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 0207 270 1362/029 2092 4204

*Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cwrdd ag arweinydd y cyngor ar 2 Medi i drafod y cais a pha gymorth pellach y gall Swyddfa Cymru ei gynnig

*I gael rhagor o wybodaeth am y broses o baratoi cais Dinas Diwylliant, ewch i wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: Cliciwch yma

*I gael rhagor o wybodaeth am yr arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ewch i wefan y Gronfa honno Cliciwch yma

Delwedd drwy garedigrwydd Lynette Bowley.

Cyhoeddwyd ar 20 August 2013