Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru: Manteision posib dal carbon

Stephen Crabb yn ymweld a Gorsaf Bŵer Aberddawan Heddiw (22 Tachwedd), mae Stephen Crabb, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi cael cyfle i weld sut…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Stephen Crabb yn ymweld a Gorsaf Bŵer Aberddawan

Heddiw (22 Tachwedd), mae Stephen Crabb, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi cael cyfle i weld sut mae gorsaf bŵer glo yn y Barri yn gwneud ei chyfraniad pwysig ei hun at nod datgarboneiddio sector ynni’r DU.

Mae Gorsaf Bŵer Aberddawan, sy’n eiddo i RWE npower, wedi bod yn gweithredu ar lannau Mor Hafren er 1971. Mae’r gallu ganddi i gynhyrchu dros 1600MW o drydan - digon i ddiwallu anghenion oddeutu 1.5 miliwn o gartrefi.

Mae’r safle hefyd yn gartref i gyfleuster gwerth miliynau o bunnoedd sy’n treialu technoleg dal carbon. Hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n un o’r rhai mwyaf i gael eu hadeiladu yn y DU hyd yma.

Mae technoleg Dal a Storio Carbon yn hanfodol wrth fynd i’r afael a’r newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang, ac wrth sicrhau cyflenwad ynni sefydlog.

Ar hyn o bryd, pan fydd glo neu nwy yn cael eu llosgi i gynhyrchu trydan, bydd carbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu ac yn cael ei ryddhau i’r atmosffer. Mae technoleg Dal a Storio Carbon yn dal y carbon deuocsid hwnnw ac yn ei gludo drwy biblinellau gan ei storio’n ddiogel mewn strwythurau yn ddwfn o dan y mor.

Bydd y cynllun peilot ar gyfer dal carbon yn Aberddawan yn dal yr allyriadau sy’n dod o gapasiti 3MW yr orsaf, a bydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o raglen ymchwil RWE sy’n ceisio eu helpu i gael gwell dealltwriaeth o ba mor effeithiol yw’r dechnoleg, pa mor ddibynadwy ydyw, a’r costau sy’n gysylltiedig a hi. 

Dywedodd Mr Crabb:

“Mae manteision posib Dal a Storio Carbon yn aruthrol: mae’n dechnoleg sy’n gallu datgarboneiddio gorsafoedd pŵer glo a nwy ac allyrwyr diwydiannol mawr, gan eu galluogi i chwarae rhan hollbwysig yn nyfodol carbon isel y DU.

“Rydym yn gwybod bod angen i sector ynni’r DU newid yn radical yn ystod y degawdau nesaf. Ni ellir dweud na wrth yr angen hwn am newid - nid yn unig oherwydd ein targedau i fynd i’r afael a newid yn yr hinsawdd, ond gan fod seilweithiau’n mynd yn hŷn ac yn hen ffasiwn, a chan fod mwy a mwy o alw gan ddefnyddwyr.

“Dros y deg i bymtheg mlynedd nesaf, mae Ofgem yn amcangyfrif y bydd angen i’r DU fuddsoddi £200 biliwn ar gyfer cynhyrchu, trawsyrru a chynhyrchu newydd. Ond mae gan nwy a glo rol yn y dyfodol hwn o hyd yn ein tyb ni, i ddarparu trydan carbon isel drwy ddefnyddio technolegau Dal a Storio Carbon.  

“Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu a defnyddio technoleg Dal a Storio Carbon. Bydd hwn yn ddiwydiant a fydd yn gallu cystadlu a ffynonellau carbon isel eraill i sicrhau amrywiaeth ein cyflenwad trydan ac i wneud yn siŵr ei fod yn sefydlog - diwydiant a fydd yn gallu gwneud ein diwydiannau ynni-ddwys yn fwy glan ac a fydd yn gallu creu swyddi a chyfoeth i Gymru ac i’r DU yn gyffredinol.  

“Yn union fel yr oedd glo Cymru yn ganolog i’r chwyldro diwydiannol, rwyf am weld adnoddau ynni Cymru a gallu Cymru yn gyrru’r chwyldro sydd ar y gorwel - y chwyldro a fydd yn datgarboneiddio ein heconomi. Mae’n bleser gennyf weld gorsaf bŵer yng Nghymru yn chwarae rol hollbwysig yn y newid hwnnw.”

Dywedodd Philip Allen, Rheolwr Gorsaf Bŵer Aberddawan;

“Mae RWE npower yn croesawu ymweliad Mr Crabb a Gorsaf Bŵer Aberddawan. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu buddsoddi er mwyn lleihau allyriadau o’r orsaf bŵer ac er mwyn cynyddu effeithlonrwydd yr orsaf. Gallwn ymfalchio yn ein hanes o ddefnyddio glo yng Nghymru, ac rydym ar gychwyn datblygiad pwysig yn hanes yr Orsaf Bŵer, Cymru a’r diwydiant ynni. Y cyfleuster peilot hwn ar gyfer dal carbon yw’r cyntaf o’i fath yn y DU. Mae’r gallu ganddo i ddal 50 tunnell o garbon bob dydd, a hwn yw’r cyfleuster mwyaf i gael ei adeiladu yn y DU hyd yma.

“Nod y prosiect yw gwella dealltwriaeth RWE o oblygiadau ymarferol gweithredu cyfleuster dal carbon ar raddfa lawn ochr yn ochr a gweithrediadau arferol gorsafoedd pŵer.”

Cyhoeddwyd ar 22 November 2012