Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson yn bresennol mewn gwasanaeth coffaol yng Nghaerdydd heddiw (28 Ionawr) i roi teyrnged…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson yn bresennol mewn gwasanaeth coffaol yng Nghaerdydd heddiw (28 Ionawr) i roi teyrnged i holl ddioddefwyr yr Holocost.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost (27 Ionawr) yn ddigwyddiad cenedlaethol yn benodol i gofio’r bobl a fu farw yn sgil hil-laddiadau ac i anrhydeddu’r rhai hynny sydd wedi goroesi cyfundrefnau casineb ar draws y byd. Y thema ar gyfer gwasanaeth coffa 2013 yw ‘Cymunedau Ynghyd:Codi Pontydd’.  

Cynhelir gwasanaeth yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Cofio’r Holocost yng Nghymru.  

Dywedodd y Farwnes Randerson:

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn caniatau i ni gofio am ganlyniadau echrydus erledigaeth.    Mae’n gyfle i gofio a rhoi teyrnged i’r rheini a ddioddefodd ac a fu farw o ganlyniad i hynny.  Mae hefyd yn ein hatgoffa ni o ddewrder y rhai a oroesodd yr hil-laddiadau a pha mor bwysig yw dysgu gwersi o’r digwyddiadau trychinebus yma.   

“Mae neges Diwrnod Cofio’r Holocost eleni, ‘Cymunedau Ynghyd: Codi Pontydd’ yn un y mae’n rhaid i ni gyd ei chofio a gweithredu arni.  Heddiw, gallwn i gyd gymryd y cyfle i bwyso a mesur sut rydyn ni’n byw ein bywydau ac ystyried sut gallwn ni greu cymunedau gwell a chryfach gyda’n gilydd.”

Cyhoeddwyd ar 28 January 2013