Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn cael sylwadau rhanddeiliaid ar amddiffyn pobl hŷn.

Y Farwnes Randerson ochr yn ochr ag Age Cymru yn cynnal trafodaeth bwrdd crwn yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Amddiffyn pobl hŷn rhag y bygythiad o dwyll ariannol oedd canolbwynt y drafodaeth yn y Digwyddiad Bwrdd Crwn a gynhaliwyd gan Weinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson ac Age Cymru heddiw (25 Tachwedd).

Er mwyn cefnogi ymgyrch ‘Sgamiau a Thwyll’ yr elusen, bydd cynrychiolwyr o bob rhan o Gymru a’r DU, gan gynnwys y Post Brenhinol, Ofcom, Action Fraud, Cyngor ar Bopeth a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, yn dod at ei gilydd yn Swyddfa Cymru ym Mae Caerdydd. Byddant yn trafod sut y gallant weithio gyda’i gilydd i amddiffyn pobl hŷn yn well, ac i geisio atal pobl hŷn yng Nghymru rhag mynd yn ysglyfaeth i sgamiau ariannol.

Ymysg y prif siaradwyr fydd Gerry Keighley, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Age Cymru a Marilyn Baldwin, sefydlydd yr Elusen “Think Jessica” a sefydlwyd ar ôl i’w mam, Jessica, gael ei thwyllo mewn Sgam

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Mae sgamiau ariannol yn broblem ddifrifol i bob un ohonom y dyddiau hyn, ond mae’n arbennig o boenus pan mae pobl hŷn, fwy bregus ein cymdeithas, yn cael eu targedu.

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gymryd camau yn erbyn hyn a dyna pam rwyf wedi galw rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd heddiw er mwyn deall pa waith sy’n cael ei wneud eisoes ac i bennu camau pellach i’w cymryd i amddiffyn y grŵp agored i niwed hwn.

Rhaid i sefydliadau weithio gyda’i gilydd i wneud pobl hŷn yn llai agored i sgamiau o’r fath, ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch y camau y gellir eu cymryd i sicrhau bod llai o bobl hŷn yn syrthio i grafangau unigolion diegwyddor.

Mae’r gwaith y mae Age Cymru a Think Jessica yn ei wneud yn hollbwysig i amddiffyn pobl hŷn, ond mae gan bob sefydliad sy’n bresennol yma heddiw rôl i’w chwarae yng nghyswllt atgyfnerthu’r warchodaeth honno gyda’r nod o atal unrhyw sgamiau pellach.

Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn y mis ar ôl i Weinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, ymateb i ddadl yn Neuadd Westminster ar Amddiffyn Pobl Hŷn yng Nghymru rhag twyll a sgamiau.

Dywedodd Gerry Keighley, Age Cymru:

Mae Age Cymru yn gobeithio y bydd y cyfarfod yn un adeiladol a fydd yn mynd i’r afael yn drwyadl â chryfhau’r warchodaeth sydd ar gael i bobl hŷn yn erbyn twyllwyr. Rydym am weithio’n adeiladol â chwmnïau masnachol megis y Post Brenhinol a BT a gydag awdurdodau i lunio rhwystrau i gadw troseddwyr draw oddi wrth bobl hŷn a phobl agored i niwed.

Cyhoeddwyd ar 25 November 2013