Gweinidog Swyddfa Cymru: “Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â heriau iechyd byd-eang”
Y Farwnes Randerson yn ymweld ag Adeilad Hadyn Ellis sy’n werth £30 miliwn i weld ymchwil arloesol i ganser a salwch meddwl.
Wales Office Minister, Baroness Jenny Randerson and Professor Colin Riordan, Vice Chancellor, Cardiff University
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd heddiw (12 Mehefin) i weld sut mae dau sefydliad ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau iechyd mwyaf sy’n wynebu poblogaeth y byd heddiw – canser a salwch meddwl.
Croesawyd y Farwnes Randerson gan yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor y Brifysgol, ac fe’i tywyswyd o amgylch Adeilad Hadyn Ellis sy’n werth £30 miliwn.
Mae’r cyfleuster ymchwil blaenllaw newydd hwn yn gartref i Sefydliad Bôn-gelloedd Canser Ewrop, sef yr unig sefydliad yn Ewrop sy’n ymchwilio’n benodol i fôn-gelloedd canser, a’r Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, sef canolfan ryngddisgyblaethol sy’n ystyried darganfyddiadau newydd a’u trosi’n ddealltwriaeth a diagnosis dyfnach o afiechyd a salwch meddwl.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson:
Roeddwn yn falch o gael y cyfle i weld rhywfaint o’r gwaith ymchwil arloesol sy’n cael ei wneud yn yr adeilad trawiadol hwn.
Gan fod canser a salwch meddwl yn effeithio ar gynifer o bobl, mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yma yn dangos sut mae dwyn ynghyd feysydd unigryw o wybodaeth ac arbenigedd yn gallu gwneud cymaint i gryfhau’r frwydr barhaus yn erbyn rhai o’r materion iechyd meddwl mwyaf heriol yn y byd.
Yn ddiau, bydd y cyfleuster hwn yn ysgogi prosiectau ymchwil yn y dyfodol ac yn hybu enw da Prifysgol Caerdydd yn fyd-eang fel addysgwr a sefydliad ymchwil arweiniol.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu’r Farwnes Randerson â Chyfarwyddwr Sefydliad Bôn-gelloedd Canser Ewrop, sef yr Athro Alan Clarke, a esboniodd y dystiolaeth gynyddol fod bôn-gelloedd yn chwarae rôl allweddol mewn creu tiwmorau, a’r ffordd y maent yn tyfu ac yn lledaenu o amgylch y corff. Os yw hyn yn gywir, fe allai fod yn bosibl trin canser yn fwy effeithiol trwy ganolbwyntio ar y bôn-gelloedd eu hunain, yn hytrach na’r holl gelloedd yn y tiwmor, fel y mae triniaethau presennol yn ei wneud.
Dywedodd yr Athro Clarke hefyd mai un o nodau’r Sefydliad yw gwella triniaethau i gleifion canser trwy greu meddygaeth fwy ‘personol’ neu ‘therapïau wedi’u targedu’. Esboniodd y datblygiad diweddaraf yn y maes hwn sydd wedi gweld Dr Richard Clarkson a’i dîm yn datblygu cyfansoddyn newydd sy’n gwrthdroi lledaeniad celloedd canser malaen y fron trwy amlygu’r rôl hollbwysig na wyddid amdani o’r blaen sydd gan enyn a allai achosi canser, sef Bcl3, mewn canser y fron metastatig.
Ymunodd Dr Clarkson, sy’n uwch ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, â’r ymchwilwyr Dr Andrea Brancale a Dr Andrew Westwell o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, i ddatblygu atalyddion cemegol bach o’r genyn Bcl3.
Gyda chefnogaeth ariannol gan Tiziana Pharmaceuticals, mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i ddatblygu’r cyfansoddyn ar gyfer treialon clinigol. Y nod yw datblygu cyfrwng therapiwtig sy’n gallu atal clefyd metastatig yng nghanser y fron ac amrywiaeth o fathau o diwmorau.
Dywedodd Dr Richard Clarkson:
Gwnaethom ddangos bod atal y genyn hwn yn lleihau lledaeniad canser gan fwy nag 80%.
Ein nod nesaf oedd dod o hyd i ffordd o atal Bcl3 yn ffarmacolegol. Er gwaethaf gwelliannau sylweddol mewn therapi ar gyfer canser y fron ar gam cynnar, mae’r dewisiadau therapiwtig presennol ar gyfer cleifion â chlefyd metastatig datblygedig yn gyfyngedig.
Felly, ceir angen clinigol clir sydd heb ei ddiwallu i amlygu cyffuriau newydd i wrthdroi neu o leiaf arafu datblygiad y clefyd.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan:
Mae Adeilad newydd Hadyn Ellis yn dynodi cyfnod newydd a phwysig ar gyfer y Brifysgol, ac roeddem yn falch o groesawu’r Farwnes Randerson yma i weld sut rydym yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau iechyd cynyddol sy’n wynebu cymdeithas.
Mae’r adeilad yn gartref i rai o’r cyfleusterau mwyaf datblygedig ac, am y tro cyntaf, mae’n dod â rhai o’n gwyddonwyr gorau at ei gilydd o dan un to.
Yn ogystal â dangos yn eglur ein nod ymchwil o fod ymhlith y 100 prifysgol orau yn y byd, mae hefyd yn arwydd o gynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol ar gyfer ailddatblygu safle cyfan Heol Maindy.
Nodiadau i olygyddion:
- Datganiad gan Prifysgol Caerdydd